Pêl-droed

RSS Icon
22 Ebrill 2016

Brwydr am yr ail safle yn dal yn agored i’r diwedd

Er mwyn y teledu mae pob gêm ar Sadwrn olaf y tymor yn dechrau am 5.15 pm. Serch hynny, yr unig gêmau o bwys yw’r rhai yn Cei Connah, Llandudno, Y Rhyl ac Aberystwyth cyn y gêmau ailgyfle i’r clybiau sy’n drydydd i’r seithfed yn y tabl. Pe bai MBi Llandudno yn colli yn erbyn y Seintiau Newydd a’r Bala yn gyfartal â Gap Cei Connah, y Bala fyddai’n dal yn ail ar ddiwedd y tymor.

Ar y llaw arall petai’r Seintiau yn colli i Landudno a’r Bala yn colli i Gei Connah yna byddai MBi wedi cyflawni gwyrth yn eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair Gymreig a gorffen yn ail. Fydd hynny’n bosibl? Wedi i’r Seintiau golli oddi cartref y Sadwrn diwethaf i Airbus mae popeth yn bosibl. Ond a fydd y Seintiau yn cael pwl o wendid am yr ail Sadwrn yn olynol?

Yn eu tair gêm hyd yma mae MBi wedi colli dwy a dod yn gyfartal y tro cyntaf iddyn nhw gyfarfod yn Llandudno. Ym mis Tachwedd mi gafwyd saith o goliau ym Mharc Maesdu, pedair o’r rheiny i’r Seintiau. A dyna fydd y tu cefn i feddwl Alan Morgan wrth baratoi ei dîm at y Sadwrn hwn. Maen nhw’n gwybod fod y bechgyn o’r ochr draw i’r ffin yn llond llaw ar y rhan fwyaf o Sadyrnau.

Mi fydd pob dim yn ofer wrth gwrs os bydd y Bala yn curo Gap Cei Connah. Wnaethon nhw ddim cystal yn erbyn MBi y Sadwrn diwethaf ac un pwynt yr un a gawson nhw o’r gêm ddi-sgôr. Colli a wnaeth tîm Colin Caton y tro diwethaf yr oedden nhw ar dir Coleg Cambria. Does dim dwywaith nad yw Gap wedi gwella ers hynny, eto beth bynnag a ddigwydd y tro hwn yn y pedwerydd safle y byddan nhw nos Sadwrn. Y Bala’n unig a all fanteisio o’r gêm hon ond bydd yn rhaid ennill i wneud yn sicr o’r ail safle.

Am y trydydd Sadwrn yn olynol mi fydd y Bala i’w gweld ar Sgorio.

Y gêmau allweddol eraill yw’r rheiny yn ail hanner y tabl rhwng Aberystwyth a Bangor a’r Rhyl yn erbyn Caerfyrddin. Gan fod yr Hen Aur wedi sgorio yn y munud olaf yn erbyn Aber y Sadwrn diwethaf a Bangor wedi methu curo Port Talbot, Caerfyrddin sydd yn y seithfed safle.

Dau bwynt sydd ynddi ac mi fydd yn rhaid i Gaerfyrddin ennill yn y Rhyl i gadw’r fantais. Wnaiff dim ond buddugoliaeth yng Nghoedlan y Parc i Fangor, rhag ofn i dim Mark Aizlewood syrthio ar fin y ffordd yn Stadiwm Corbett Sports. Yn ôl ym mis Hydref Caerfyrddin oedd yn llwyddiannus yn y Rhyl. Ers hynny gwaethygu a wnaeth y claerwynion tan eu dwy gêm ddiwethaf, a churo Port Talbot 5-0 bythefnos yn ôl, er bod y chwydd-wydr yn dal ar ganlyniad y gêm honno.

Mi fydd Bangor yn gwybod iddyn nhw gael cweir 4-0 yn Aber yn Rhagfyr a methu eu curo gartref y mis diwethaf. Ychydig a fyddai’n rhoi punt ar y Dinasyddion i ennill hon gan eu bod wedi ei chael yn anodd i gael tri phwynt yn eu dwy gêm ddiwethaf. Tymor arall heb gael eu trwynau yn Ewrop fydd hi i Fangor mae’n bosib iawn os na allan nhw gael agoriad o’r wythfed safle unwaith y bydd Cwpan Cymru wedi’i setlo. Mae hynny mor wir yn hanes Aberystwyth hefyd os trechan nhw Fangor.

Beth bynnag a ddigwydd, y Seintiau Newydd yw’r pencampwyr eto eleni a does neb yn ddigon tebol i roi hergwd iddyn nhw o’r brig.

Rhannu |