Pêl-droed

RSS Icon
20 Ebrill 2016
Gan GLYN GRIFFITHS

Ai yng Nghymru y mae dyfodol CPD Bae Colwyn?

YDI’R amser wedi dod i Fae Colwyn ystyried chwarae eu gemau yn hollol o fewn strwythur pêl-droed Cymru? Er waethaf eu buddugoliaeth y Sadwrn diwethaf yn erbyn Sutton Coldfield, bydd y Bae yn disgyn i lawr o’u cynghrair am yr ail flwyddyn yn olynol, yn dilyn y golled 4-1 adref yn erbyn Whitby yr wythnos diwethaf, a hynny o flaen dim ond 192 o gefnogwyr.

Ar ôl treulio tymor 2014-15 yn Adran y Gogledd o’r Gyngres (un rheng yn is na’r un mae Wrecsam ynddo), mae’r Bae yn disgyn allan o Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr eleni ac yn Adran Un y gynghrair honno byddant y flwyddyn nesaf. 

Ers i Lee Williams ymadael â’r clwb yn 2013, mae yna newidiadau cyson wedi bod yn y rhai a fu’n rheoli’r clwb. Cymerodd Frank Sinclair, cyn amddiffynnwr Chelsea’r awenau yn dilyn ymadawiad Williams ym mis Chwefror 2103, a llwyddodd i gadw’r tîm yn adran y gogledd o’r gyngres am dymor, gan orffen yn y deuddegfed safle. Yna yn Ionawr 2015, ymddiswyddodd Sinclair, gan gael ei olynu gan Gus Williams am weddill y tymor ond ni lwyddodd y clwb i aros yn eu cynghrair a bu rhaid disgyn i lawr i uwch gynghrair gogledd Lloegr.

Penodwyd Ashley Hoskin fel rheolwr ym mis Mai, 2015, ond byr fu ei deyrnasiad a bu iddo fo hefyd ymadael ym mis Hydref, a chael ei olynol gan Kevin Lynch a gafodd ei ddiswyddo fis yn ôl yn dilyn cyfres o ganlyniadau siomedig. 

Felly gyda’r clwb yn chwilio am reolwr newydd, y trydydd mewn tua blwyddyn (a bydd hyn y chweched mewn tair blynedd), teg ydi gofyn ble mae dyfodol y clwb yn debygol o’u harwain?

Mae gwefan academi’r clwb yn amlinellu eu strwythur o ddatblygu chwaraewyr ifanc, gan gynnig dilyniant a pharhad ar gyfer datblygu’r medrau’r chwaraewyr er mwyn cyrraedd safon a fyddai yn ôl y wefan, yn eu galluogi i chwarae i dimau o fewn Uwch Gynghrair Cymru neu uwch ar lefel proffesiynol.

Gyda hyn yn osodiad cydnabyddedig o fewn amcanion y clwb tybed pam felly na allai’r Bae ddod yn un o’r timau hynny a allasai gynnig y cyfle i’w chwaraewr lleol chwarae a chystadlu  o fewn yr Uwch Gynghrair  Cymru y maent mor barod i gydnabod ei safon. Wedi’r cwbl oni fyddai anelu at fod yn aelodau llawn o bêl-droed o fewn Cymru yn well llwybr i’r dyfodol?

Siawns na fydd derbyn sylw’r cyfryngau cenedlaethol a cheisio cymhwyso ar gyfer ennill Cwpan Cymru, dod yn bencampwyr ar Uwch Gynghrair Cymru a chystadlu ar y cyfandir yn cynnig llawer gwell her na cheisio osgoi llithro allan o gynghrair arall o fewn Lloegr.

Fe allasai Ewrop gynnig gemau yn erbyn timau o’r Iwerddon, Croatia neu Hwngari yn hytrach ac fe ddylai hyn fod yn llawer gwell her na chystadlu yn erbyn Glossop North End, Osset Albion neu Harrogate Railway Athletic er mwyn ymestyn gorwelion a safonau ar gyfer y dyfodol!

Yn y cyfamser fe fyddai eu gweld yn cystadlu yng Nghwpan Word  Uwch Gynghrair Cymru yn cael ei groesawu, ac fe fyddant yn gymwys i gystadlu yn y gystadleuaeth yma, a byddai hyn yn cynnig her a sialens realistig i’r Bae.

Mae clwb MBi  Llandudno, eu cymdogion agos, wedi dangos yr hyn sydd yn bosibl wrth ddatblygu tîm a chlwb sydd yn barod i ymateb i her genedlaethol a chyfandirol.

Mae eu canlyniadau yn yr Uwch Gynghrair, a nifer eu torfeydd yn dangos eu bod yn prysur achub y blaen ar y Bae, a chyda’r clwb wedi cymhwyso i ennill trwydded i gynnal gemau Ewropeaidd ar eu maes, mae Llandudno yn mynd o nerth i nerth. 

I gadarnhau eu datblygiad ehangach, roedd tîm merched MBi Llandudno yn chware yn ffeinal Cwpan Cymru i ferched y Sul diwethaf, er mai colli 5-2 fu’r hanes, yn erbyn merched Dinas Caerdydd.  Dim ond ers dwy flynedd mae tîm merched Llandudno yn bodoli ac mae eu datblygiad yn esiampl wych i glybiau eraill sydd yn edrych am ymestyn allan i’r gymuned.

Digon o her i’r Bae ymateb iddynt a hynny’n dod o’u cymdogion agos y ogystal ag o fewn pêl-droed Cymru efallai; tybed a ydynt yn barod i ymateb iddi?

Rhannu |