Pêl-droed

RSS Icon
11 Ebrill 2016

Dim curo ar y Seintiau a’r ail safle i glwb o Gymru

Bythefnos cyn diwedd y tymor a’r tîm o’r ochr arall y ffin sy’n bencampwyr am y pumed tro yn olynol. Y rhyfeddod yw fod y Seintiau Newydd mor barod i ddal ati yn Uwch Gynghrair Cymru a phethau yn dod mor hawdd iddyn nhw. Doeddan nhw ddim mor sicr y tymor hwn ac roedd hi’n nes at ddiwedd y tymor cyn iddyn nhw ei chlensio hi.

Ymlaen yn awr i gipio Cwpan Cymru ac mi fyddan yn mynd â’r tri anrhydedd sydd i’w gael ym mhêl-droed Cymru unwaith eto eleni. Mae’n bryd i rywun gael yr ateb i roi pin yn eu balwn. Methodd y Bala ac mae’n ymddangos nad oes yr un clwb arall yn ddigon da i’w curo.

Yr ymgiprys am yr ail safle yw hi bellach i dîm Maes Tegid. Mi ddaw’r ateb i hynny y Sadwrn hwn pan fydd MBi Llandudno yn ymweld â’r Bala. Gyda bechgyn Colin Caton ddau bwynt ar y blaen i Landudno mae hon yn gêm sy’n cyfri. Y tro diwethaf ym mis Ionawr y Bala aeth â hi yn hawdd a’r cae gwair wedi bod yn fantais iddyn nhw fel nad oedd yn Park Hall y Sadwrn diwethaf.

Maen nhw wedi colli yn Llandudno yn Chwefror, felly mae pethau’n ddigon agos rhyngddyn nhw o ran yr hanes byr sydd rhyngddyn nhw. Gan ei bod yn gêm sydd â chymaint o werth iddi o ran pwyntiau mae’n debyg mai’r Bala fydd yn manteisio orau ar y cae gwair o flaen camerâu Sgorio.

Rhagbrawf ar gyfer Cwpan Cymru fydd ym Mrychdyn wrth i’r pencampwyr ddangos i Airbus beth yw beth. Wnaethon nhw mo hynny yn eu gêm gyntaf y tymor hwn ar faes Hollingsworth, ond yn eu dwy gêm gartref maen nhw wedi chwalu’r awyrenwyr. Digon prin y bydd yn grasfa debyg y tro hwn.

Yn ail hanner y tabl mae’r frwydr am y seithfed safle yn dal yn boeth eithriadol. Mi fydd hi’n wresog iawn y Sadwrn hwn eto gan fod Caerfyrddin gartref i Aberystwyth. Dim ond pwynt o fantais sydd gan yr Hen Aur dros Aber wedi dod yn gyfartal a Bangor 2-2 y Sadwrn diwethaf. A Bangor o’u blaenau ar wahaniaeth goliau yn unig. Os yw Mark Aizlewood a’i dîm am ei gneud hi mae’n rhaid iddyn nhw guro Aberystwyth fel y gwnaethon nhw yn eu herbyn oddi cartref ddwywaith cyn hyn.

Mae’r un mor wir am Fangor. Yn Port Talbot y maen nhw ac yn gwybod mor anodd fu hi yn eu herbyn y tri tro diwethaf y tymor hwn. Rhaid ennill hon, a’r unig obaith iddyn nhw yw fod Port Talbot wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf heb sgorio yr un gôl a deuddeg wedi bod yn eu herbyn. Colli hon ac mi fydd eu gobaith am y seithfed safle wedi diflannu am eleni.

Dyw lle yn yr Uwch Gynghrair ddim yn sicr i Bort Talbot y tymor nesaf. Chawson nhw ddim trwydded i chwarae gan y Gymdeithas Bêl-droed ac mi fydd yn rhaid mynd i apêl i gyflawni hynny. Mi gafodd y Rhyl eu trwydded a churo Port Talbot 5-0 y Sadwrn diwethaf. Er bod y claerwynion allan o’r cynghrair mae’r trwyddedau yn rhoi llygedyn o oleuni iddyn nhw aros ynddi.

Y Sadwrn hwn maen nhw’n mynd am daith hir i Hwlffordd. Mae Gap Cei Connah yn y Drenewydd yn gobeithio ennill er mwyn dwyn y trydydd safle oddi ar MBi Llandudno cyn diwedd y tymor.

Rhannu |