Pêl-droed

RSS Icon
07 Ebrill 2016
Gan ANDROW BENNETT

Y Bala’n gobeithio am wyrth yn erbyn y Seintiau

Daeth y dydd o brysur bwyso i’r Bala. Y Sadwrn hwn yw eu cyfle i guro’r Seintiau Newydd am y tro cyntaf a’u gorfodi nhw i ddisgwyl bod yn ben unwaith eto. A fydd hynny’n digwydd? Wedi i’r Seintiau gael cymaint o flas ar drechu Gap Cei Connah yn rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru mae’n anodd gweld bechgyn Colin Caton yn ei gwneud hi heb y wyrth o’u plaid.

Roedd hi’n edrych fel petai’r Seintiau wedi cymryd hoe dros y pythefnos cynt er mwyn cael yr awydd i ddal gafael yn y cwpan. Er iddyn nhw golli dwy gêm yn olynol am y tro cyntaf ers oesoedd doedd dim colli i fod yn erbyn y tîm oedd wedi eu trechu ddwywaith yn eu cae eu hunain. Gwir oedd geiriau Andy Morrison mai tîm y cae hen ffasiwn yw Cei Connah.

A’r cae carped fydd bwgan y Bala y tro hwn mae’n siŵr. Gêmau cyfartal fu pob gêm y tymor hwn, gartref ac oddi cartref, ond mi all y Seintiau fod yn eu hwyliau yn y gêm bwysig hon a mynd amdani i gipio’r teitl am flwyddyn arall. A Sgorio yno’n disgwyl hynny am 5.15.

Yn yr hanner isaf mae hi am fod yn frwydr galed ym Mangor y Sadwrn hwn. Gan fod Caerfyrddin wedi curo Hwlffordd 1-0 nos Fawrth maen nhw’n gyfartal â Bangor o ran pwyntiau. Mi lwyddodd Bangor i ennill 5-2 yn erbyn Hwlffordd y Sadwrn diwethaf. A yw hyn yn awgrymu fod mwy o dân yn y Dinasyddion nag yn yr Hen Aur?

Tipyn o fwgan fu Caerfyrddin i Fangor y tymor hwn a’r unig galondid sydd ganddyn nhw yw eu bod wedi eu curo yn y Waun Dew. Serch hynny mi enillodd tîm Mark Aizlewood ym Mangor y tro diwethaf ac mi fydd am wneud eto i fachu’r seithfed safle.

Aberystwyth sy’n rhoi croeso i Hwlffordd y nos Wener yma. Fel y profwyd yng Nghaerfyrddin dyw’r clwb sydd eisoes i lawr ddim am fynd o dan draed neb. Mi fydd yr un mor galed i Aber ag oedd hi i’r Hen Aur nos Fawrth.

Mae’n gêm allweddol i MBi Llandudno os ydyn nhw am orffen yn drydydd yn y tabl. Maen nhw bum pwynt ar ôl y Bala a thri o flaen Gap Cei Connah. Os gallan nhw guro’r Drenewydd y nos Wener hon mi fydd hynny’n rhoi hwb ymlaen iddyn nhw yn erbyn Gap. Does wybod pa ffordd yr aiff hi yn y gêm hon, er mae’n rhaid cofio fod y Drenewydd wedi cael hwyl arbennig yn erbyn y Seintiau Newydd bythefnos yn ôl.

Enillwyr a chollwyr yn rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru y Sadwrn diwethaf sydd yn erbyn ei gilydd yng Nghei Connah. Crasfa gafodd Gap 5-0. Ar y llaw arall mi enillodd Airbus 7-0 gan godi cywilydd mawr ar Port Talbot. Sut y bydd y bydd hi y nos Wener yma rhwng y ddau glwb? Gap Cei Connah ddaeth allan ohoni orau yn y ddwy gêm ddiwethaf. Os byddan nhw wedi dod dros y siom o golli mor anrhydeddus y Sadwrn diwethaf yna mi allan ei gwneud hi unwaith eto.

Gyda’r Rhyl yn barod wedi disgyn drwy ddrws gwaelod y gynghrair dydyn nhw ddim yn gorfod teithio y Sadwrn hwn. Port Talbot sydd yn ymweld ac am adfer eu henw da ar ôl y gweir yn erbyn Airbus yn y Cwpan. Ennill 0-1 wnaethon nhw y tro diwethaf ym mis Hydref ac mi fydd hynny’n bosibl iddyn nhw yr wythnos hon, os na fydd lwc o blaid y Rhyl am unwaith.

Rhannu |