Pêl-droed

RSS Icon
30 Mawrth 2016
Gan ANDROW BENNETT

Allen yn allweddol

Cymru 1 (Church [o’r smotyn] 88) Gogledd Iwerddon 1 (Cathcart 60)

Wcráin 1 (Yarmolenko 28) Cymru 0

Roedd hi’n hysbys i bawb y byddai’r ddwy gêm baratoadol yn ystod yr wythnos ddiwethaf ar gyfer rowndiau terfynol Ewro 2016 yn rhai anodd, yn arbennig heb Gareth Bale ac Aaron Ramsey a gwelwyd eisiau amddiffynnwr West Ham, James Collins, hefyd

Mae Bale bellach wedi creu record newydd i Brydeiniwr yn La Liga Sbaen gyda chyfanswm o 43 o goliau i guro Gary Lineker, â’r Sais wedi gwneud hynny dros 103 ymddangosiad i Barcelona tra bod talismon Cymru ond wedi chwarae 76 o weithiau i glwb Real Madrid.

Bu gorfod bod heb brif sgoriwr diweddar ein tîm cenedlaethol ynghyd â gweld Ramsey yn absennol yn dipyn o faich i weddill y garfan yn erbyn y Gwyddelod a’r Wcráin ac, er llwyddo i rannu’r ysbail ar lechweddau Lecwydd wythnos i neithiwr, roedd y daith i Kiev yn gam rhy bell i garfan Chris Coleman o ran y canlyniad.

Er hynny, manteisio ar y cyfle i weld sut y byddai chwaraewyr eraill, â llawer ohonyn nhw’n ddibrofiad ar lefel rhyngwladol, oedd prif bwrpas y ddwy ornest, gydag ond un gêm debyg yn weddill i’w chwarae, yn erbyn Sweden yn Stockholm bnawn dydd Sul, y 5ed o fis Mehefin.

Tri-ar-hugain o chwaraewyr fydd yn y garfan yn Ffrainc a, gyda’r tri golwr, Wayne Hennessey, Owain Fôn Williams a Danny Ward yn sicr o’u lleoedd os gallan nhw gadw’n glir o anafiadau tebyg i un Jack Butland, un o golwyr Lloegr sydd allan o Ewro 2016 ar ôl torri migwrn.

Ugain lle sydd ar gael i chwaraewyr eraill, felly, a nifer sylweddol o rheiny wedi eu llenwi yn barod ym meddwl Coleman, gyda chwaraewyr ifanc fel Emyr Huws, Tom Lawrence, Jonny Williams a hyd yn oed Tom Bradshaw o glwb Walsall yn gystadleuol yn y ffrâm i gael eu cynnwys erbyn hyn.

Ynghyd â Bale, Ramsey, y capten Ashley Williams, ei gyd-Alarch Neil Taylor a dau gyn-Alarch, Joe Allen a Ben Davies, cyn chwaraewyr Caerdydd Joe Ledley a Chris Gunter ac amddiffynnwr West Ham, James Collins, yw’r criw sy’n ymddangos yn sicr o’u lle ar gyfer Ffrainc.

Gwelwyd yn y ddwy gêm pa mor allweddol yw Allen fel echel y tîm yng nghanol y cae wrth iddo gamu o fainc yr eilyddion yn erbyn y Gwyddelod a chodi’r tempo ar unwaith tra roedd ei ddylanwad yn amlwg dros y 90 munud yn Kiev nos Lun.

Bu cryn drafod am y posibilrwydd o weld y crwt o Sir Benfro yn dychwelyd i Abertawe, hyd yn oed mor fuan â’r Haf eleni petai Brendan Rodgers rywsut yn dychwelyd i swydd y rheolwr yn Stadiwm Liberty.

I rai sy’n cofio’r cyfnod byr y treuliodd Allen ar fenthyg gyda Wrecsam yn gynnar yn ei yrfa, mae ei ddatblygiad wedi bod yn anhygoel ac mae’r profiad y mae e wedi ei ennill yng nghwmni Ramsey a Ledley a thu blaen i Williams yn elwa Cymru tra bod rheolwr Lerpwl, Jürgen Klopp, heb lwyr sylweddoli gwerth y Cymro.

Er gwaetha ymdrechion clodwiw Allen, methwyd ag ennill y ddwy gêm, ond fe ddysgodd, Coleman a’i brif gynorthwywr, Osian Roberts, dipyn am gymeriad llawer o chwaraewyr, nid yn unig ar gyfer Ewro 2016, ond hefyd wrth baratoi ar gyfer y dyfodol pellach.

Roedd ildio gôl o sefyllfaoedd statig yn y ddwy ornest yn dra siomedig, gyda Craig Cathcart yn ergydio heibio i nifer o amddiffynwyr yn dilyn cic gornel wythnos i neithiwr, tra roedd y methiant i warchod Andriy Yarmolenko wrth i’w gydymaith a chapten Wcráin, Ruslan Rotan, gymryd cic rydd yn anfaddeuol ar lefel rhyngwladol.

Cododd Rotan ei gic dros ben nifer o amddiffynwyr Cymru a neb yn ymateb i arwain at gyfle i guro Hennessey ac er y gellid gosod ychydig o fai ar y golwr am ei fethiant i gadw’r ergyd allan, roedd `na fwy o fai ar weddill yr amddiffyn.

Methwyd ag achub unrhyw beth yn Kiev, yn wahanol i ddiweddglo’r gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon, wrth i Simon Church achub croen ei dîm a dangos ei fod yntau am gystadlu go iawn am le yn y garfan fydd yn teithio i Ffrainc ymhen ychydig dros ddeufis.

Camodd Church i’r maes fel eilydd ar 76 munud yn lle Sam Vokes ag ymosodwr Burnley wedi arddangos tipyn o awch cyn gadael y cae yn dilyn adferiad wedi anaf i ben-glin yn nhymor 2014-15.

Mae’n bosib fod Vokes a Church yn cystadlu am yr un lle yn y garfan ac roedd y modd yr enillodd Church ei gic o’r smotyn wrth gael ei faglu yn y cwrt a’i hyder wrth sgorio yn arwydd o’i allu yntau.

Crwydro o glwb i glwb, weithiau ar fenthyg, fu hanes Church ar hyd ei yrfa, gyda chanlyniadau cymysg iddo, ond ers iddo symud (ar fenthyg eto, o’i glwb MK Dons) i Aberdeen yn yr Alban ddeufis union yn ôl, mae e wedi llwyddo i sgorio pedair gôl mewn wyth gêm.

O gofio bod Vokes wedi sgorio deg gôl i Burnley ers dechrau eleni, 2016, mae ef a Church wedi creu problem i Coleman, yr union fath o broblem y mae’r rheolwr yn hapus i’w hwynebu wrth geisio penderfynu ar gynnwys y garfan derfynol ar gyfer y daith i Ffrainc.


 

Rhannu |