Pêl-droed
Trydydd cynnig i Gap sodro’r Seintiau Newydd
Sadwrn y Cwpan yw hi yr wythnos hon a phedwar o glybiau’r Uwch Gynghrair sydd wrthi. Yn y rownd gyn-derfynol mae dwy gêm yn cael eu cynnal wrth gwt ei gilydd yn y Drenewydd. Ac mi fydd enw’r dre yn y canolbarth yn codi cywilydd braidd ar un o’r timau fydd yn chwarae yn yr ail gêm.
Fydd cofio beth a ddigwyddodd iddyn nhw yn erbyn y Drenewydd y Sadwrn diwethaf ddim yn brofiad pleserus i’r Seintiau Newydd sy’n wynebu un arall o’u bwganod y Sadwrn hwn. Dim ond tîm Chris Hughes a thîm Andy Morrison – Gap Cei Connah – sydd wedi curo’r Seintiau yn ystod y tymor. Yr unig wahaniaeth yw fod Cei Connah wedi eu curo ddwywaith. A nhw fydd ym Mharc Latham yn erbyn y Seintiau am 5.15pm y Sadwrn hwn, gêm fydd i’w gweld ar Sgorio.
Doedd tîm Craig Harrison ddim wedi colli yn Park Hall ers tair blynedd a phedwar mis tan nos Sadwrn diwethaf. A cholli ar yr ail Sadwrn yn olynol hefyd sy’n ergyd galed i falchter tîm proffesiynol, yr unig glwb llawn amser yn yr Uwch Gynghrair. Ar wahân i’r ychydig gefnogwyr sydd gan y Seintiau fyddai neb arall yn poeni am eu dau ganlyniad diwethaf. “Da iawn” yw ymateb pawb arall, mae’n bryd torri eu crib a’u rhwystro i ennill y bencampwriaeth mor hawdd eleni eto.
Y nhw yw deiliaid y Cwpan hefyd ac mi fyddai’r rhai sy’n teimlo fod ganddyn nhw ormod o ddylanwad ar yr Uwch Gynghrair yn teimlo yr un fath am eu gafael ar Gwpan Cymru. Y cwestiwn mawr yr wythnos hon yw a fydd Gap Cei Connah yn medru eu curo am y trydydd tro y tymor hwn i arwain at enw newydd ar y Cwpan.
Mae’n berygl fod y Seintiau wedi eu hysgwyd yn ormodol i dderbyn dwy gweir fel yma heb wneud yr ymdrech fwyaf i gael y gorau ar Gap. Rhaid cofio beth a ddywedodd Andy Morrison ar ôl rownd ddiwethaf y Cwpan, mai tîm yn chwarae’n well ar gae go iawn ydyn nhw. Chafodd o mo’i ddymuniad i gael y gêm nesaf ar gae felly a gorfod dygymod a charped Parc Latham y bydd ei fechgyn glew.
Yn sicr, mi fydd hynny’n rhoi’r fantais i’r pencampwyr ond mi fydd carfan fawr o ddilynwyr pêl-droed Cymreig yn gobeithio y bydd tîm y crysau coch yn goroesi.
Pwy bynnag fydd yn curo mi fydd raid iddyn nhw wynebu un ai Port Talbot neu Airbus fydd wedi chwarae o’u blaenau. Mae gobeithion Port Talbot wedi codi i’r entrychion ar ôl llorio’r Rhyl 4-0 bnawn Llun a sodro’r claerwynion am y tymor. Colli wnaeth Airbus yn y Bala, ond wedi cadw un neu ddau chwaraewr adref yn barod am y Cwpan. Mi allai Port Talbot ei gwneud hi.
Mi fydd un gêm Uwch Gynghrair y Sadwrn hwn. Am yr ail Sadwrn yn olynol mae Hwlffordd yn teithio i Fangor gan obeithio y bydd y cae yn sych yr wythnos hon. Dyma gyfle Bangor i neidio’n ôl i’r seithfed safle yn y tabl gan fod Aberystwyth wedi hawlio’r lle wedi curo’r Rhyl 3-1.
Mi fydd Caerfyrddin, a gollodd gartref i Bort Talbot wythnos yn ôl, yn croesawu Hwlffordd nos Fawrth nesaf gyda’r gobaith hefyd o fod yn seithfed.