Pêl-droed

RSS Icon
23 Mawrth 2016

Cae iawn yn fantais i’r Bala yn erbyn Airbus

Fydd dim posibl i gêmau yr wythnos hon gynnig cymaint o amrywiaeth yn eu sgôr. Pwy fyddai wedi credu y gallai Gap Cei Connah guro’r Seintiau Newydd am yr ail dro y tymor hwn? A hynny wedi i’r Bala fethu gwneud hynny yn ystod yr wythnos, ac yna methu â chael y gorau ar y Drenewydd y Sadwrn diwethaf.

Y nos Wener yma mae’r Bala gartref i awyrenwyr Brychdyn. Colli wnaeth Airbus wythnos yn ôl ac MBi Llandudno yn derbyn triphwynt am eu hymdrech lew, canlyniad dipyn gwahanol i’r gêm gyfartal yn Llandudno ddeufis yn ôl.

O’r tair gêm rhwng y Bala ac Airbus y tymor hwn mae’r Bala wedi curo ddwywaith, unwaith ym Maes Tegid ac yna ym maes Hollingworth ganol y mis diwethaf. Mae cyfle i’r awyrenwyr wneud rhywbeth ohoni ar y pedwerydd cynnig. Ond rhaid cofio mai ar gae iawn y maen nhw’n chwarae, nid ar garped y mae Airbus yn gyfarwydd ag o gartref. Wrth ystyried hynny, y Bala biau hon.

Gêmau’r hanner isaf yw’r ddwy gêm nos Wener arall. Yn eu cae eu hunain y mae Aberystwyth a’r Rhyl yw’r ymwelwyr. Wnaeth Aber ddim colli wythnos yn ôl ond wnaethon nhw ddim ennill chwaith a phwynt yn unig a gawson nhw o’r 2-2 yn y GenQuip. Hunllef oedd hi i’r Rhyl, yn colli 3-4 yn erbyn Bangor a hwythau wedi mynd 3-1 ar y blaen yn yr ail hanner.

Pwrpasol iawn oedd fod yr Awr Ddaear wedi taro llifoleuadau Stadiwm Corbett Sports lawer yn rhy gynnar. Mi ddaethon nhw’n ôl ond doedd dim achubiaeth i Niall McGuinness sy’n dal i chwilio am ei fuddugoliaeth gyntaf fel rheolwr. Efallai mai yn Aberystwyth y daw honno.

Oddi cartref yn y Waun Dew y mae Port Talbot. Er eu bod nhw wedi bod ar y blaen yn erbyn Aberystwyth ildio gôl yn yr eiliadau diwethaf a wnaethon nhw a cholli dau bwynt. Mi fyddan nhw’n gobeithio gwneud yn well na’r gêm ddi-sgor a gawson nhw yng Nghaerfyrddin ddechrau’r flwyddyn. Mi fydd tîm Mark Aizlewood yn barod i roi stop ar hynny gan eu bod mewn safle mor dda i sicrhau’r seithfed safle yn y tabl.

Gyda’r un nifer o bwyntiau â Bangor mae ganddyn nhw gêm mewn llaw i gymryd mantais ohoni. Fydd dim ar eu meddyliau ond ennill y tro hwn eto fel y gwnaethon nhw gyda deg dyn yn Hwlffordd y Sadwrn diwethaf.

Mae tair gêm arall yr Uwch Gynghrair yn cael eu cynnal bnawn Sadwrn. Yn Park Hall y bydd Sgorio yn gweld y Seintiau Newydd yn curo’r Drenewydd unwaith eto y tymor hwn. Soriwyd 10 gôl yn eu herbyn yn y ddwy gêm ddiwethaf.

Mi fydd tîm Andy Morrison yn rhedeg allan ar gae Llandudno yn llanciau i gyd fel yr unig glwb i guro’r Seintiau ddwywaith yn ystod y tymor. Ar gyfaddefiad y rheolwr dyw Gap Cei Connah ddim yn hoff o chwarae ar garpedi a dyna fydd yn llesteirio peth arnyn nhw wrth wynebu bechgyn Alan Morgan. Mi fyddan yn cofio hefyd mai’r cae yw’r bwgan yn rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru yn y Drenewydd yn erbyn y Seintiau y Sadwrn nesaf. Tybed a fydd hynny’n eu rhwystro rhag curo bechgyn Craig Harrison am y trydydd tro?

Hwlffordd sydd ym Mangor a’r drws yn agored iddyn nhw ddisgyn yn syth o’r Uwch Gynghrair ddiwedd y tymor. Dyw eu record yn erbyn Bangor ddim yn ddrwg. O’r tair gêm sydd wedi ei chwarae dim ond un maen nhw wedi ei cholli. Ym Mangor yr oedd hynny ac mi fydd Neville Powell a’i dîm am weld hynny’n digwydd unwaith eto.

Rhannu |