Pêl-droed
Awr fawr Abertawe
WRTH i Brendan Rodgers, rheolwr yr Elyrch, baratoi’i garfan ar gyfer eu hymdrech yn ffeinal gêmau ailgyfle’r Bencampwriaeth ddydd Llun nesaf, falle bydd ei feddwl yn crwydro o bryd i’w gilydd at ei ymgais, ymhen rhyw bythefnos, i ddringo mynydd uchaf Affrica, Kilimanjaro, i godi arian i elusen Nyrsys Marie Curie.
Er hynny, bydd Rodgers, yn ôl ei arfer, wedi paratoi’n fanwl iawn ar gyfer dau o ddigwyddiadau pwysica’i fywyd hyd yn hyn. Clywyd dros y dyddiau diwethaf am edmygedd chwaraewyr yr Elyrch o waith y rheolwr, yn camu i sgidie a lanwyd gydag amrywiaeth o lwyddiant dros y blynyddoedd diweddar gan Kenny Jackett, Roberto Martinez a Paulo Sousa.
Yn aelod o’r to ifanc o reolwyr, mae chwaraewyr yr Elyrch wedi’u syfrdanu gan syniadau a dulliau Rodgers a rheiny’n ennyn a chadw diddordeb y garfan yn awchus a brwdfrydig yn feunyddiol. Mae rhai o’r chwaraewyr, yn arbennig Alan Tate a Leon Britton, wedi gweld a bod yn rhan o ddatblygiad a dyrchafiad y clwb ers y dyddiau duon hynny pan fu clwb pêl-droed Abertawe ar fin colli’u lle ymhlith y prif gynghreiriau ac o fewn dim i fynd i’r wal.
Er y prynu, y gwerthu a’r benthyca chwaraewyr ar hyd y blynyddoedd, mae Tate, Britton, y capten Garry Monk ac hyd yn oed y Cymro Cymraeg 21 mlwydd oed a fu’n gysylltiedig â’r clwb ers dwsin o flynyddoedd, Joe Allen, wedi bod yn rhan o’r gwella a’r datblygu ac, o bosib, ar drothwy cyflawni breuddwyd y’i gwelid yn amhosib mor ddiweddar ag wyth mlynedd yn ôl.
Bu Allen ei hunan yn ddisgybl brwd yn Ysgol y Preseli tra’n bwrw prentisiaeth gyda’r Elyrch ac mae’n gweld dyfodiad Rodgers yn estyniad pwysig o’i addysg yng Nghrymych, nid yn unig ar y cae pêl-droed, ond yn ei fywyd beunyddiol hefyd.
Pan gyrhaeddodd Rodgers Abertawe’n gynnar ym mis Gorffennaf llynedd, y cwestiwn “Brendan Pwy?” oedd y gri ymhlith llawer o’r cefnogwyr. Pan sylweddolwyd fod yr hyfforddwr ifanc (38 mlwydd oed erbyn hyn) o Carnlach yng Ngogledd Iwerddon wedi gadael ei swydd yn rheolwr ar Reading wedi ond chwe mis yno, roedd ’na lawer yn darogan na fyddai’n aros yn hir yn Abertawe chwaith, yn arbennig o gofio am arhosiad byr Sousa.
O astudio’i hanes yn fanylach, fodd bynnag, dylai fod yn amlwg ers iddo gyrraedd De Cymru fod gan Rodgers allu arbennig a chysylltiadau gwerthfawr o fewn y gamp. Yn gyn-ddirprwy i José Mourinho gyda Chelsea, canolbwyntiodd rheolwr yr Elyrch ar ddilyn gyrfa fel hyfforddwr ar ôl gorfod rhoi’r gorau i chwarae’n dilyn anaf pan yn 20 mlwydd oed.
Dilynodd Rodgers ôl traed Mourinho mewn sawl modd, yn cynnwys dysgu Sbaeneg ac Eidaleg (mae e’n siŵr o ychwanegu Cymraeg at y rhestr os aros yma yng Nghymru am gyfnod sylweddol) a chyfuno technegau seicolegol ac ysgogol cyfoes gyda’r hyfforddi arferol. Tra bo Rodgers yn gallu bod yn ddisgyblwr pan fo angen, mae’n amlwg ei fod ar yr un donfedd â’i chwaraewyr, fel, yn amlwg, yr oedd Martinez yn ystod ei gyfnod yntau’n y Liberty.
Bydd dydd Llun yn brawf o gymeriad yr Elyrch a’r cyfan falle’n dibynnu ar gymeriad clwb pêl-droed Abertawe a’r cefnogwyr os bydd pethe’n dechre mynd o chwith yn gynnar yn y gêm. Beth bynnag fydd canlyniad y daith i Wembley, daw cyfle wedyn i weld cymeriad Brendan Rodgers, naill ai wrth iddo geisio atgyfnerthu’i garfan a’u hysbrydoli ar gyfer bywyd yn Uwch Gynghrair Lloegr neu o orfod ysgogi criw o chwaraewyr isel eu hysbryd os aros yn y Bencampwriaeth sydd raid.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA