Pêl-droed
Bala’n wynebu tîm sy’n hoff o gae hen ffasiwn
UN peth y bydd y Bala yn falch ohono: mi fyddan yn ôl yr wythnos hon ar faes mwdlyd Tegid. Wrth chwarae eu dwy gêm ddiwethaf ar garpedi Llandudno a Brychdyn maen nhw wedi colli. Dyw bechgyn Colin Caton ddim am gael cynnig pellach ar ennill Cwpan Cymru eleni eto.
Y nos Wener hon Gap Cei Connah sy’n teithio i’r Bala. Yn ôl tystiolaeth eu rheolwr Andy Morrison mi fyddan nhwythau yn reit falch o fod ar gae arferol. Mi ddywedodd nad ydyn nhw mor gyfforddus ar y carpedi, ac roedden nhwythau wedi gorfod chwarae eu gêm ddiwethaf ar garped Met Caerdydd yng Nghwpan Cymru. Mi wnaethon nhw ennill ond chwarae ar gae carpedog Park Hall y byddan nhw nesaf yn y cwpan a doedd hynny ddim yn codi ei galon.
Dyma felly brawf o ddifri pwy sy’n dygymod orau ar gae hen ffasiwn a meddal. Dyw’r Bala ddim wedi ennill ym Maes Tegid ers dechrau’r flwyddyn yn erbyn MBi Llandudno.
Dim ond un gêm arall maen nhw wedi ei chwarae yno a chyfartal 1-1 oedd hi wrth i’r Drenewydd ymweld. Does dim dwywaith nad ydyn nhw wedi bod yn anodd eu curo ar eu cae eu hunain y tymor hwn ac mi all Cei Connah brofi hynny y tro hwn.
Maen nhw wedi cael gafael ynddi yn ystod y tymor ar ôl i Morrison ddechrau eu damio. Mi lwyddon nhw i drechu’r pencampwyr ddechrau’r flwyddyn ac mae’n sicr fod cyflwr eu cae wedi cyfrannu at hynny. Mi fyddan yn berffaith hapus ym Maes Tegid y tro hwn ac os oes rhywun am roi gêm i’r Bala, Gap Cei Connah yw’r rheiny.
Un o’r ddwy gêm arall y nos Wener hon yw’r un ym Mangor. Aberystwyth sy’n ymweld wedi i Fangor lwyddo i guro Caerfyrddin yn y Waun Dew y Sadwrn diwethaf 0-1. Yr wythnos cynt roedd Caerfyrddin wedi goresgyn Aber yng Nghoedlan y Parc. Yn ôl trefn naturiol pethau mae gan Fangor obaith dygymod â bechgyn Ian Hughes y tro hwn.
Does dim sicrwydd o hynny gan fod y Dinasyddion wedi colli ddwywaith yn barod y tymor hwn i Aberystwyth, gartref ac oddi cartref. Mi all fod yn drydydd tro fel y gwelwyd yn erbyn Port Talbot bythefnos yn ôl
Y Seintiau yn erbyn MBi Llandudno yw’r gêm nos Wener arall. Dau glwb yw’r rhain sy’n gyfarwydd â’r un amodau dan eu traed. Gêm gyfartal oedd hi ar ddechrau’r tymor a’r newydd-ddyfodiad i’r gynghrair yn dangos fod tipyn o ruddin ynddyn nhw. Colli wnaethon nhw gartref 3-4 ym mis Tachwedd. Mi fydd yn anodd ennill y gêm hon hefyd a’r Seintiau ar eu carped eu hunain.
Croesawu’r Rhyl y mae Caerfyrddin y Sadwrn hwn, a meddyliau’r rhan fwyaf ar yr hyn sy’n mynd i ddigwydd yn Twickenham a dim gêm ar Sgorio. Mi fydd rheolwr newydd y gwynion yn chwilio am ei fuddugoliaeth gyntaf. Ddaeth hi ddim yn ei gêm gyntaf gartref. Yr unig nodyn gobeithiol iddo yw mai gêm gyfartal 1-1 oedd hi y tro diwethaf y buon nhw yn y Waun Dew ddechrau’r flwyddyn.
Gweddill y gêmau yw Hwlffordd v Port Talbot yng ngwaelodion y tabl a’r Drenewydd yn erbyn Airbus, a’r awyrenwyr wedi codi eu calonnau yn curo’r Bala 3-0 yn y cwpan.
Anwadl yw Airbus ac yn erbyn tîm Chris Hughes y tymor yma maen nhw wedi colli gartref ac ennill yn y Drenewydd. Dyna’i gwneud yn anodd iawn gwybod beth fydd yn digwydd y trydydd tro.