Pêl-droed

RSS Icon
04 Mawrth 2016

Sadwrn heriol arall i Fangor yn y Waun Dew

Er mai rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Cymru yw hi yr wythnos hon dim ond pedwar o glybiau’r Uwch Gynghrair sy’n segur y Sadwrn hwn. 

Gan eu bod allan o’r cwpan mae dau o dimau’r hanner isaf yn manteisio i chwarae gêm a gollwyd oherwydd y tywydd bythefnos yn ôl.

Teithio am yr ail waith i Gaerfyrddin y mae Bangor felly, yn y gobaith y bydd y cae yn ddigon da i chwarae arno y tro hwn. 

Wedi trechu Aberystwyth y Sadwrn diwethaf yng Nghoedlan y Parc mi fydd Caerfyrddin yn selog iawn y gallan nhw wneud yr un peth eto gyda Bangor. A pwy allai eu beio am feddwl felly wedi i’r Dinasyddion golli eu gêm gartef yn erbyn Port Talbot 0-2.

Cwyno yn erbyn penderfyniadau’r dyfarnwr Huw Jones yr oedd amryw o gefnogwyr Bangor. Fyddai neb yn poeni llawer am ei waith petai tîm Neville Powell yn chwarae’n well. Mae’n siŵr mai hwn oedd perfformiad salaf Bangor y tymor hwn. Roedd ganddynt fymryn o esgus. 

Roedden nhw dri yn brin o’u chwaraewyr arferol ac roedd hynny’n dangos. Mi gollson nhw eu hasgellwr, Sion Edwards cyn diwedd y gêm hefyd wedi iddo gael dau gerdyn melyn.

Mi fydd ‘y bwystfil’ Steve Lewis ar gael y tro hwn a bydd taer ei angen yn y blaen yn y Waun Dew. Mae wedi sôn ei fod am helpu Bangor i gyrraedd y seithfed safle. 

Er iddyn nhw ddechrau ail hanner y tymor yn dda maen nhw’n bedwerydd o waelod y tabl erbyn hyn gyda Chaerfyrddin ac Aberystwyth uwch eu pennau.

Dyw’r Waun Dew ddim wedi bod yn lle proffidiol iawn i fechgyn Neville Powell. Dydyn nhw ddim wedi curo yno ers Tachwedd 2014. 

Mae’n ddigon posibl y bydd tîm Mark Aizlewood yn ddigon abl i roi ergyd arall i Fangor y Sadwrn hwn. Ddechrau Ionawr y maen nhw wedi colli o’r blaen ers iddyn nhw golli yn y Drenewydd 4-1 ganol Rhagfyr. Does dim amheuaeth fod ganddyn nhw’r tîm i’w gwneud hi eto yn erbyn Bangor.

Chwech o glybiau’r Uwch Gynghrair sydd ar ôl yng Nghwpan Cymru ac mae dwy gêm yn cynnwys pedwar o’r clybiau. Mynd i Frychdyn y mae’r Bala a hwythau wedi colli ar garped Parc Maesdu wythnos yn ôl am y tro cyntaf ers deg gêm. Ar yr un math o gae y byddan nhw eto y Sadwrn hwn sy’n fyd gwahanol iawn i Faes Tegid yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae’r arian ar gael iddyn nhwythau gael gosod carped dros yr haf ac anghofio am y mwd am byth.

Gan fod Airbus ar rediad gwael mae’n bosibl iawn mai’r Bala aiff â hi yn y rownd yma o’r Cwpan. 

Mi gollodd yr awyrenwyr aelod pwysig o’u tîm wrth golli Andy Jones y Sadwrn diwethaf yn Park Hall. Mi fydd yn gorfod magu ei fabi newydd anedig a’i drwyn wedi torri a chur yn ei ben.

Tro’r Seintiau, deiliaid y Cwpan, yw croesawu’r Drenewydd. Yr unig obaith sydd gan Chris Hughes a’i dîm yw peidio ildio pump o goliau fel y gwnaeth Airbus y Sadwrn diwethaf. Fydd cofio eu bod wedi colli gartref iddyn nhw 6-0 ddim yn codi dim ar eu calonnau wrth deithio dros y ffin.

Mae Gap Cei Connah ar rediad da ac er eu bod oddi cartref yn erbyn Metropolitan Caerdydd mi ddylen nhw osod eu stamp ar y gêm. 

Chwarae yn erbyn Cwmbran Celtic y mae Port Talbot a’u hwyliau ar i fyny wedi curo Bangor. Mi fydd yn rhaid iddyn nhw fod ar eu gorau i ennill hon eto.

Rhannu |