Pêl-droed

RSS Icon
22 Chwefror 2016

Bala’n gobeithio bod yn ben ym Mrenhines y Glannau

Glaw mawr neu hindda mi fydd y Bala yn chwarae yr wythnos hon. Y nos Wener yma maen nhw yn teithio i Landudno a chan eu bod nhw’n chwarae ar garped mae’n rhaid cael eira mawr i rwystro’r gêm rhag cael ei chynnal.

Nid felly y digwyddodd hi ym Maes Tegid nos Sadwrn diwethaf. Roedd trefnwyr Sgorio S4C wedi edrych yn y belen risial a phenderfynu ddyddiau ynghynt y byddai’r tywydd yn amharu ar y gêm. Roedden nhw’n berffaith gywir. Ble’r aethon nhw? I weld Airbus yn erbyn Gap Cei Connah ar faes carpedog stadiwm Hollingsworth.

Mi gafodd gêm MBi Llandudno ei chynnal hefyd – ar garped y Drenewydd. Er i dîm Chris Hughes ildio chwe gôl yn erbyn y Seintiau y Sadwrn cynt roedd mwy o awch yn eu chwarae y tro hwn. A bu raid i dîm Alan Morgan ddisgwyl tan ddiwedd y gêm cyn i Jamie Reed sgorio iddyn nhw gael pwynt.

Yn ôl ym mis Hydref doedd yr un gôl yn y gêm rhwng MBi Llandudno a’r Bala. Stori wahanol oedd hi pan aeth Alan Morgan a’i chwaraewyr i Faes Tegid y mis diwethaf. Mi gollson nhw 3-0 a chae hen ffasiwn o dan eu traed. Mi fydd yn anos i’r Bala ar gae cyfyng Brenhines y Glannau, er y bydd eu coesau wedi cael gorffwys am wythnos. Cau’r bwlch rhyngddyn nhw a’r Bala fydd ymgais fawr Alan Morgan ond nod Colin Caton fydd lleihau’r bwlch rhyngddyn nhw a’r Seintiau. Fyddan nhw ddim eisiau gêm gyfartal yn sicr.

Mynd ar y blaen y bydd y pencampwyr eto mae’n bosibl iawn. Airbus sydd yn Park Hall y Sadwrn hwn, y tîm sydd wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf a heb ennill ers dydd cynta’r flwyddyn. Mi fydd yn rhaid i Andy Preece a’i chwaraewyr ddod o hyd i rywbeth arbennig iawn os ydyn nhw am ennill unrhyw beth o’r gêm hon.

Gêm Sgorio y tro hwn yw un o ail hanner y tabl, rhwng yr hen elynion Aberystwyth a Chaerfyrddin. Mi lwyddodd Ian Hughes a’i dîm yn Hwlffordd y Sadwrn diwethaf ac maen nhw wedi neidio uwchben Bangor i’r seithfed safle yn y tabl. Mi fethodd Caerfyrddin â chwarae eu gêm yn erbyn Bangor oherwydd cyflwr y cae. A fydd wythnos o orffwys wedi gwneud lles i dîm Mark Aizlewood? Mi fyddan nhw’n cofio eu bod wedi curo 1-2 yng Nghoedlan y Parc cyn diwedd y flwyddyn. Serch hynny mae Aber wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf ar ôl colli’r pedair gêm cyn hynny. Does wybod pwy all fynd â hi y tro hwn.

Wedi wythnos segur mae Bangor yn ôl yn Nantporth yr wythnos hon. Port Talbot sy’n ymweld, wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn tîm Neville Powell. Mi fyddan nhw’n teimlo y gallan nhw wneud hynny eto, yn arbennig oherwydd y bydd y Dinasyddion heb dri o’u prif chwaraewyr.

Gyda rheolwr newydd ifanc wrth y llyw mi fydd y Rhyl yn ddigon parod i frwydro yn erbyn eu cyd-ddioddefwyr ar waelod y tabl. Chafodd Niall McGuinness a’i dad Laurie ddim cyfle i ddangos eu gallu y Sadwrn diwethaf gan fod y gêm yn Port Talbot wedi ei gohirio. Dyma siawns o ddifri y tro hwn i osod eu stamp ar eu cae eu hunain a rhoi mymryn o obaith i’w cefnogwyr.

Y Drenewydd fydd yng Nghei Connah lle mae’r tîm cartref wedi cael eu hysbrydoli gan Andy Morrison i guro’r pencampwyr y mis diwethaf. Lle pryderus felly i dîm y canolbarth fynd iddo i feddwl ennill.

Rhannu |