Pêl-droed

RSS Icon
25 Ionawr 2016

Clybiau’n wynebu her fawr ail hanner y tymor

Os bydd y tywydd yn caniatàu mi fydd ail hanner y tymor yn dechrau y nos Wener yma. Dim ond un gêm sydd i fod ar y Sadwrn wrth i’r clybiau anelu am y mannu uchaf posibl yn y tabl. A brwydrau lleol yw llawer ohonyn nhw.

Digon prin y gellir galw’r ornest yn Aberystwyth dan y label hwnnw. Ond gan nad oes ond dau glwb o’r de yn yr Uwch Gynghrair mae’r gêm yn erbyn Port Talbot yn ymylu ar fod yn ‘lleol’. Mae hon yn dod mor fuan ar ôl i Aber golli i fechgyn Andy Dyer ar yr ail Sadwrn o’r mis. Doedd dim lwc i Ian Hughes a’i dîm y diwrnod hwnnw nac yn erbyn y Drenewydd y Sadwrn wedyn. Y canlyniad oedd eu bod yn nawfed yn y tabl ar ddiwedd hanner cyntaf y tymor, dau bwynt ar y blaen i Bort Talbot.

Mae’r gwŷr dur wedi dechrau’r flwyddyn ychydig yn well. Dydyn nhw ddim wedi colli ac mi lwyddon nhw i gadw Airbus i gêm gyfartal cyn hollti’r tabl. Wedi gorffwys y Sadwrn diwethaf mae’n bosibl y byddan nhw’n dal mewn hwyliau ennill a rhaid i Aberystwyth fod yn barod amdanyn nhw, heb Sherbon a Venables o bosib a gafodd gardiau coch yn eu gêm ddiwethaf.

Hen elynion Bangor sydd yn Nantporth y nos Wener hon. I lawr yn isaf ond un y mae’r Rhyl o hyd ond mi lwyddodd Bangor i godi i’r seithfed safle cyn yr hollti. Yno maen nhw’n gobeithio bod ar ddiwedd y tymor er mwyn cael ailgyfle i fynd am Ewrop. Mae’r gêmau rhwng y ddau glwb wedi bod yn rhai tynn yn ddiweddar a fydd hon ddim yn gêm hawdd i Neville Powell a’i dîm, er bod y llabwst Steve Lewis yn wynebu ei hen dîm mewn crys glas.

Caerfyddin sydd agosaf i Fangor yn y tabl ac maen nhw’n dechrau ail hanner y frwydr yn erbyn ffyddloniaid y gwaelod, Hwlffordd. Y tro diwethaf iddyn nhw gyfarfod yn y Waun Dew mi enillodd Caerfyrddin 4-1 ac mi enillson nhw wedyn nes dod ar draws MBi Llandudno a’r Drenewydd. Mi lwyddon nhw wedyn ond does dim cysondeb yn eu canlyniadau. Heb Mark Aizlewood ar ymyl y cae i’w cyfarwyddo oherwydd gwaharddiad efallai y byddan nhw’n gweld Hwlffordd yn anodd i’w trechu.

Yn yr hanner uchaf mae’r Bala yn wynebu’r Drenewydd a hynny heb David Artell sydd wedi gadael Maes Tegid yn ddisymwth. Roedd yn golofn gadarn yn y cefn ac mi fydd yn newydd calonogol i Chris Hughes a’i fechgyn o’r Drenewydd. Maen nhw wedi cael dau chwaraewr newydd i roi ysbryd newydd i’r tîm. Wrth gwrs, mae llygad Colin Caton a’i fechgyn ar gau’r chwe phwynt rhyngddyn nhw a’r Seintiau.

Mae’r pencampwyr yn croesawu Gap Cei Connah, yr unig dîm i’w curo y tymor hwn. Mi fydd y Seintiau yn llawer hapusach ar eu carped nag ym mwd Cei Connah pan oedd y sgor yn 2-0. Dyw tîm Craig Harrison ddim wedi bod ar eu gorau ers dechrau’r tymor, er iddyn nhw ennill Cwpan Word yn ddigon hawdd o flaen torf o selogion swnllyd Dinbych. Digon prin y byddan nhw’n gadael i Gap Cei Connah eu trechu eto ‘chwaith.

Mi fydd camerau Sgorio yn ôl yn Llandudno y Sadwrn hwn i ddangos y gêm rhwng y tîm cartref ag Airbus.

Rhannu |