Pêl-droed

RSS Icon
19 Ionawr 2016

Cwpan Word - "Byddai buddugoliaeth i Ddinbych yn gymharol i Siapan yn trechu De Affrica!" - Cyflwynydd Sgorio Dylan Ebenezer

Byddai buddugoliaeth i Ddinbych yn erbyn pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru Y Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Word yn un o'r canlyniadau mwyaf syfrdanol yn hanes pêl- droed Cymru, yn ôl cyflwynydd Sgorio Dylan Ebenezer.

Wedi trechu rhai o gewri'r Uwch Gynghrair, Y Rhyl, Airbus UK a gap Cei Connah, ar eu ffordd i'r rownd derfynol, mae'r tîm, sy'n chwarae eu gemau gartref yn Central Park, yn wynebu eu her anoddaf ddydd Sadwrn, pan fyddan nhw'n herio'r tîm llawn amser ac enillwyr Cwpan Word y llynedd, Y Seintiau Newydd.

Mae tîm Craig Harrison yn anelu at ennill y trebl am yr ail dymor yn olynol eleni trwy ennill Cwpan Cymru, Uwch Gynghrair Dafabet Cymru a'r Cwpan Word.

Yn ymuno â Dylan ar gyfer y ffeinal yn Stadiwm MBi Llandudno, bydd cyn-chwaraewyr Cymru Owain Tudur Jones a Gwennan Harries. Nic Parry a chyn-chwaraewr rhyngwladol arall Malcolm Allen fydd yn sylwebu. Cyn-reolwr Port Talbot Mark Jones a chyn-reolwr Aberystwyth Tomi Morgan fydd yn darparu'r sylwebaeth Saesneg trwy'r gwasanaeth botwm coch.

Meddai Dylan Ebenezer: "Mae fe'n grêt cael clwb fel Dinbych yn y rownd derfynol.

"Maen nhw wedi trechu sawl tîm o Uwch Gynghrair Dafabet ac wedi dangos nad ffliwc yw eu llwyddiant.

"Ond maen nhw'n cwrdd â thîm sydd ar mission i gael y trebl unwaith eto, felly bydd hon yn her enfawr iddyn nhw.

"Mae'r Seintiau Newydd yn mwynhau ennill ac maen nhw'n dal i ddatblygu. Maen nhw wedi codi'r safon yn yr Uwch Gynghrair a dydyn nhw ddim yn aros yn llonydd."

Wedi derbyn eu lle yn y gystadleuaeth fel un o bedwar wildcard, dim ond un gêm arall sydd rhwng tîm Gareth Thomas, Dinbych, a'r fuddugoliaeth fwyaf mewn cystadleuaeth gwpan yn y 136 mlynedd ers i'r clwb gael ei ffurfio. Ond pa obaith sydd gan y tîm o Gynghrair Undebol Huws Gray yn ôl Dylan Ebenezer? 

"Petaen' nhw'n trechu'r Seintiau, byddai'n un o'r canlyniadau mwyaf syfrdanol yn hanes pêl-droed Cymru," meddai Dylan.

"Byddai fe'n sioc fwy na Wrecsam yn erbyn Arsenal, Wimbledon yn erbyn Lerpwl neu hyd yn oed Siapan yn erbyn De Affrica yn y rygbi, petai Dinbych yn ennill.

"Ond 'da chi byth yn gwybod, mae sioc wastad yn bosib a dyna pam 'da ni'n caru pêl-droed."

Bydd arlwy chwaraeon S4C yn parhau dros y penwythnos gydag uchafbwyntiau cystadlaethau Ewrop ar y meysydd rygbi (nosweithiau Sadwrn, Sul a Llun). A bydd cyfres newydd o Ralïo+ hefyd yn dechrau nos Fawrth, 26 Ionawr am 6.30pm. Mae'r rhifyn cyntaf yn cynnwys uchafbwyntiau ras gyntaf tymor Pencampwriaeth Ralio'r Byd 2016, sy'n cael ei chynnal ym Monte Carlo.

Sgorio: Ffeinal Cwpan Word: Y Seintiau Newydd v Dinbych
Dydd Sadwrn 23 Ionawr 4.45, S4C. Cic gyntaf, 5.15.
Sylwebaeth Saesneg ac isdeitlau Saesneg ar gael
Gwefan: s4c.cymru
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Rhannu |