Pêl-droed

RSS Icon
18 Ionawr 2016

Haneru teithio Cymru i glybiau’r hanner uchaf

Swm a sylwedd hanner nesaf y tymor yw na fydd clybiau yr hanner uchaf yn gorfod teithio fawr ddim am y deng wythnos sy’n weddill. O’r Drenewydd i fyny y mae’r chwe clwb fydd yn chwarae yn erbyn ei gilydd wedi eu lleoli. Fydd ganddyn nhw ddim hanner y gwaith teithio sy’n wynebu’r chwech yn yr hanner isaf.

Drwy rhyw wyrth dim ond chwe phwynt ar y blaen y mae’r pencampwyr. Mi gollodd y Seintiau eu gêm gyntaf yng Nghei Connah y Sadwrn diwethaf a’r Bala yn curo MBiLlandudno i ddringo’n nes i’r brig. O leiaf dyw chwe phwynt ddim yn golygu fod y clwb o Groesoswallt mor bell ar y blaen y tro hwn a bod yn bosibl eu dal, dim ond i’r gêmau nesaf fynd o blaid rhai fel y Bala, Llandudno ac Airbus.

Bangor sy’n arwain yr hanner isaf o un pwynt. Mi lwyddon nhw i guro Hwlffordd 2-1 ond petai’r sgôr yn llawer iawn uwch fydden nhw ddim wedi cyrraedd yr hanner uchaf. Roedd y Drenewydd wedi cael y nerth o rywle i ddygymod ag Aberystwyth ac ennill 1-2 yn y diwedd. Mi gafodd dau o chwarewyr Aber, Luke Sherbon a Chris Venables gardiau coch a bydd yn rhaid dechrau ail hanner y tymor heb ddau o’u chwaraewyr allweddol. Gêm yn erbyn Port Talbot yw’r gyntaf y byddan nhw’n gorfod ei wynebu.

Pwynt yn unig sydd rhwng Bangor ac Aberystwyth yn y tabl. O gofio fod Bangor wedi colli llawer o’u gêmau yn ebyn y timau o’u cwmpas yn yr hanner gwaelod dyw’r pwynt ddim am fod yn gaffaeliad mawr iddyn nhw yn y deng wythnos nesaf. Ar ben hynny mae Caerfyrddin yn agos iawn hefyd ac yn barod mae Bangor wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn yr Hen Aur ac Aberystwyth. Cyrraedd y seithfed safle a’r gêmau ailgyfle yw nod y Dinasyddion erbyn hyn ond mae llawer o waith caled i anelu at hynny.

Y Rhyl fydd yn eu wynebu gyntaf yn yr hanner nesaf. Gêmau cyfartal yw nodwedd Gwynion y Glannau hyd yma ac mi lwyddon nhw i gael un o’r rheiny yn y Waun Dew y Sadwrn diwethaf. Maen nhw’n dal bum pwynt tu ôl i Bort Talbot a dau o flaen Hwlffordd sydd ar y gwaelod. Prin y gellid dweud ei bod wedi bod yn dymor i godi calon cefnogwyr y Rhyl ond mae digon o addewid yn y garfan sydd gan Gareth Owen.

Yr un pryd dyw Hwlffordd ddim yn dîm anobeithiol o bell ffordd. Er hynny mae gan Wayne Jones waith caled o’i flaen i’w cadw yn Uwch Gynghrair Cymru, yn arbennig wrth feddwl fod yn rhaid teithio i’r Rhyl a Bangor i geisio sadio’r cwch. Mae tipyn o dasg o’i flaen. Yng Nghaerfyrddin mae eu gêm gyntaf lle collson nhw y tro diwethaf 4-1.

Mae’r rhan nesaf o’r tymor yn dechrau 29 Ionawr gyda phum gêm ar y nos Wener ac un ar y Sadwrn.

Siomedigaeth i swyddogion yr Uwch Gynghrair y Sadwrn diwethaf oedd fod llai na 2,000 wedi bod yn gweld y chwe gêm. Dyw’r torfeydd ddim wedi bod yn dda hyd yma y tymor hwn gyda chefnogwyr y Rhyl a Bangor yn brinnach.

? Cwpan Word, cwpan y gynghrair, sy’n cael ei chynnal y Sadwrn hwn. Dafydd a Goliath neu Dinbych v Y Seintiau Newydd ym Mharc Maesdu, Llandudno am 5.15. Y gêm i’w gweld ar Sgorio, S4C.  

Rhannu |