Pêl-droed

RSS Icon
15 Ionawr 2016

Noson i fod ar bigau’r drain i bedwar clwb

Hwn yw Sadwrn mwyaf tyngedfennol y tymor i bedwar o glybiau Uwch Gynghrair Cymru. Mi all y gêmau olaf cyn yr hollti mawr olygu hanner uchaf gyda’r goreuon neu fod yn ymladd am y seithfed safle yn yr hanner isaf.

Mae pob gêm yn dechrau am 5.15pm yr wythnos hon, dim gêmau nos Wener, a’r teledu yn cadw golwg ar bob un, er yn dangos y gêm rhwng Aberystwyth a’r Drenewydd yn fyw ar Sgorio. Y nhw yw dau o’r clybiau sy’n debyg o ennill neu golli wrth i’r gêmau gyrraedd eu huchafbwynt.

Gan fod Aberystwyth a’r Drenewydd wedi colli eu gornestau diwethaf mae gan Fangor obaith o hyd i gyrraedd y chwech uchaf os bydd y canlyniadau eraill yn mynd o’u plaid a hwythau’n sgorio digon o goliau yn eu gêm yn erbyn Hwlffordd. Roedd hi’n dipyn o syndod i’r rhai sy’n dilyn yr Uwch Gynghrair fod y ddau glwb o’r canolbarth wedi colli mor drwm, Aberystwyth yn arbennig yn colli ar eu tomen eu hunain 1-3 yn erbyn Port Talbot. Gorfod aros yn yr hanner isaf y bydd Port Talbot, serch hynny, hyd yn oed os byddan nhw’n curo Airbus y Sadwrn hwn.

Roedd hi gymaint o ryfeddod fod Bangor wedi rhoi cweir 3-0 i’r Drenewydd wythnos yn ôl. Wedi colli o’r un sgôr ar yr un cae yn erbyn MBiLlandudno yr oedden nhw yr wythnos cynt. Ychydig iawn oedd yn disgwyl y byddai llwyddiant yn erbyn tîm Chris Hughes. Ond gyda Bangor wedi cael ‘bwystfil’ o’r enw Steve Lewis i chwarae iddyn nhw roedd ysbryd newydd yn eu coesau. A’r wobr yw y gobaith lleiaf o esgyn i waelod yr hanner uchaf.

Os ydyn nhw am gyrraedd y man cysegredig hwn mi fydd yn rhaid i lawer sgôr fynd o’u plaid. Mi fydd yn rhaid i Aberystwyth ennill yn erbyn y Drenewydd, ond o lai na dwy gôl; mi fydd yn rhaid i Gaerfyrddin golli wrth groesawu’r Rhyl a bydd yn gwbl angenrheidiol i Fangor sgorio llwyth o goliau yn Nantporth yn erbyn Hwlffordd. Mae hi’n swnio’n dasg amhosib.

Pe bai’r Drenewydd yn llwyddo mi fydden nhw’n brwydro am le yn Ewrop eto yr haf hwn. Mi gawson nhw flas ar chwarae timau o’r cyfandir chwe mis yn ôl ac mi wnaeth hynny les i’w canlyniadau ar ddechrau tymor yr Uwch Gynghrair. Dyw pethau ddim wedi mynd cystal yn ddiweddar ac mae colli Shaun Sutton yn y cefn oherwydd anaf wedi bod yn ergyd iddyn nhw.

Y gêm bwysicaf yn yr hanner uchaf y Sadwrn hwn yw’r un ym Maes Tegid, os bydd y cae yn addas i chwarae arno y tro hwn. Hon yw’r gêm all gadarnhau pa glwb fydd yn ail i’r pencampwyr (sydd oddi cartref yng Nghei Connah) cyn yr hollt. Mae’r Bala wedi adfer hwnnw y Sadwrn diwethaf yn erbyn Hwlffordd er mai cael a chael oedd hi. MBi Llandudno sy’n drydydd agos ond mae’n rhaid iddyn nhw guro’r Bala i neidio dros eu pennau i’r ail safle. Mi fyddai hynny’n glo a hanner iddyn nhw fel newydd-ddyfodiaid.

Mae tîm Alan Morgan yn ddigon abl i drechu’r Bala. A fydd yr hoe a gawson nhw y Sadwrn diwethaf wedi gwneud lles iddyn nhw neu wedi trymhau eu coesau?

Rhannu |