Pêl-droed

RSS Icon
07 Ionawr 2016

Dim llawer o obaith i Aber a Bangor ddringo i’r hanner uchaf

Dau dîm a gollodd eu gêmau diwethaf ar ddydd Calan sy’n chwarae gartref y nos Wener yma. Yn annisgwyl iawn colli a wnaeth Aberystwyth yn erbyn Hwlffordd, y clwb sydd wedi bod ar waelod y tabl yn gyson ers misoedd lawer. Ddechrau’r wythnos roedd Aber wedi eu curo 0-1. Ac mi gafodd Bangor ergyd galed gan MBi Llandudno o flaen torf ddisgwylgar oedd yn gwybod fod y Gleision wedi ennill yn eu herbyn bedwar diwrnod ynghynt.

Wedi rhoi cosfa i Fangor o 4-0 cyn y Nadolig ac yna ennill yn Hwlffordd, colli eu dwy gêm nesaf oedd eu hanes. Cyn i Hwlffordd ddod i Goedlan y Parc a’u trechu 1-2 mi ddaeth Caerfyrddin yno dridiau ynghynt a’u curo 1-2. Gyda’r ddau ganlyniad yma roedd gobaith o le yn y chwech uchaf yn diflannu’n sydyn iawn ac Ian Hughes, y rheolwr yn gweld y cyfle yn llithro heibio.

Dwy gêm sydd ar ôl cyn y rhaniad mawr a rhaid i bethau fynd o’u plaid yn eithriadol gyda’r clybiau sydd uwch eu pennau iddyn nhw fedru camu o’u blaenau. Mae gobaith yn y gêm gyntaf hon yn erbyn Port Talbot iddyn nhw gael tri phwynt. Mi lwyddodd Port Talbot yn eu herbyn ar ddechrau’r tymor yn y GenQuip ond tymor digon gwael maen nhw wedi ei gael wedyn. Bron nad ydyn nhw wedi gwneud yn well oddi cartref nag yn eu cae eu hunain a hynny fydd yn rhaid i Aber ei wylio y tro hwn.

O flaen y camerâu dydd Calan mi brofodd Bangor nad oes siap o gwbl arnyn nhw wrth chwarae gartref. Roedd carped Llandudno yn eu siwtio’n llawer gwell y Llun cynt. Mi ddigwyddodd hynny yn erbyn y Drenewydd hefyd, y clwb sy’n teithio i Fangor y nos Wener yma. Ddeufis yn ôl mi sgorion nhw dair ym Mharc Latham heb ddim ymateb yn eu herbyn. A fydd hi’n wahanol ar gae gwair? Mae’r Drenewydd wedi mwynhau ambell ymweliad â Bangor yn y tymhorau diwethaf ac mae’n bosib iawn y bydd hynny’n wir heno. Os bydd capten Bangor, Leon Clowes, yn absennol eto mae hi’n edrych yn go ddu ar y Dinasyddion.

Rhaid dweud nad oes gobaith i Fangor gyrraedd y chwech uchaf erbyn hyn gyda’r gêm hon ac un arall gartref yn erbyn Hwlffordd yn weddill. A dyw pethau ddim yn edrych cystal ar Gaerfyrddin ar ôl colli yn y Bala 2-1 nos Fawrth. Maen nhw’n seithfed yn y tabl, un pwynt o flaen Aberystwyth a phedwar ar y blaen i Fangor ac yn gobeithio y bydd y Drenewydd yn colli yn erbyn Bangor.

Mae’r Bala wedi dringo’n ôl i’r trydydd safle ac os yr enillan nhw yn erbyn Hwlffordd y Sadwrn hwn mi fyddan yn neidio i’r ail safle, uwch ben MBiLlandudno. Mi fydd yn rhaid i rywbeth mawr fynd o’i le i fechgyn Maes Tegid golli yn erbyn y teithwyr o Hwlffordd. Y gêmau y Sadwrn wedyn fydd yn penderfynu’r safloedd terfynol a thîm brenhines glannau’r gogledd fydd yn y Bala y min nos hwnnw. A fydd tîm Alan Morgan yn ddigon o ddynion bois i gadw’r Bala yn y trydydd safle i goroni hanner tymor cyntaf anrhydeddus iddyn nhw?


 

Rhannu |