Pêl-droed

RSS Icon
05 Ionawr 2016

A all yr Adar Gleision hedfan yng Nghwpan FA Lloegr?

FE all rhediad da yng nghystadleuaeth y Cwpan FA helpu gwella perthynas hyfforddwr Caerdydd Russell Slade gyda’r cefnogwyr, meddai cyflwynydd S4C Dylan Ebenezer.

Bydd S4C yn darlledu’n fyw o Stadiwm Dinas Caerdydd o 5.35pm ddydd Sul yma (10 Ionawr, cic gyntaf 6pm), wrth i’r Adar Gleision herio’r Amwythig yn nhrydedd rownd Cwpan FA Emirates. Yn ymuno â Dylan yn y stiwdio bydd is-reolwr tîm Cymru Osian Roberts a chyn-chwaraewr canol cae Cymru, Owain Tudur Jones.

Meddai Dylan Ebenezer: “Dw i’n credu bydd cefnogwyr Caerdydd yn ffansi rhediad da yn y cwpan, ac fe allai rhediad fod o ddaioni mawr i Russell Slade. Dylai Gaerdydd fynd amdani yn sicr. Dyw Slade ddim yn dwp ac mae’n gwybod byddai colli gartref i’r Amwythig yn ergyd a byddai’r pwysau yn cynyddu yn fwy byth arno.”

Dyma’r tro cyntaf i’r ddau glwb herio’i gilydd yng Nghwpan FA Lloegr. Ymysg carfan bresennol yr Amwythig mae cyn-chwaraewyr o Gaerdydd, yr amddiffynnwr Anthony Gerrard a’r asgellwr Liam Lawrence, sydd nawr yn gapten tîm y New Meadow.

Enillodd Caerdydd eu gêm ddiwethaf 1-0 gartref yn erbyn eu gwrthwynebwyr yn y Bencampwriaeth, Blackburn Rovers, tra cafodd yr Amwythig grasfa o 7-1 yn erbyn Chesterfield yn eu gem ddiweddaraf yn Adran Un.
Ond mae Dylan yn credu na fydd canlyniadau diweddar y timoedd yn cael effaith ar y gêm hon.

Ychwanegodd Dylan: “Enillon nhw eu gêm ddiwethaf yn erbyn Blackburn, ond mae hynny’n cyfri dim ar benwythnos trydedd rownd y gwpan. Dyw Caerdydd ddim yn gyson a ti byth yn gwybod be wnaiff ddigwydd mewn gêm gwpan.

“Mae’n anrhydedd arbennig iawn i gael dangos gêm Cwpan Lloegr ac mae’n bendant yn neis gael Caerdydd ar S4C – mae’n ffordd dda i ddechrau blwyddyn enfawr i bêl-droed Cymru.”

Mae S4C ar gael yng Nghymru ar Sky 104; Freeview 4; Virgin TV 166; Freesat 104. Ac ar draws y DU ar Sky 134; Freesat 120; Virgin TV 166. Hefyd ar-lein ar s4c.cymru, tvcatchup.com, TVPlayer.com, YouView a BBC iPlayer.

* Cwpan FA: Caerdydd v Yr Amwythig, Nos Sul 10 Ionawr 5.35pm, S4C. Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Llun: Dylan Ebenezer

Rhannu |