Pêl-droed
Llandudno yn agor y drws i’r Bala fachu’r ail safle
Os bydd y tywydd yn caniatàu mi fydd y Bala wedi chwarae tair gêm mewn wythnos. Rhwng nos Fawrth diwethaf a nos Fawrth nesaf mi fyddan nhw wedi wynebu’r Rhyl ddwywaith a Chaerfyrddin unwaith. Eu gobaith yw neidio’n ôl i’r ail safle yn y tabl wrth iddi nesu at ddiwedd hanner cyntaf pwysig y tymor.
Mi gawson nhw rodd gan MBi Llandudno ddechrau’r wythnos wrth i dîm Alan Morgan golli’n annisgwyl yn erbyn Bangor. Am ryw reswm roedd Bangor wedi adfywio’n llwyr ar ôl y gweir a gawson nhw yn Aberystwyth cyn y Nadolig. Mi lwyddon nhw i fynd ddwy ar y blaen ym Mharc Maesdu cyn ildio gôl ym munud olaf y gêm. Gadawodd hynny Landudno yn stond yn eu lle i wylio beth mae’r Bala am ei wneud a beth a wnan nhw eu hunain ym Mangor ar ddydd Calan, gêm sydd i’w gweld yn fyw ar Sgorio yn y pnawn.
Y Rhyl sy’n ymweld â Maes Tegid yr un diwrnod os byddan nhw’n medru chwarae ar y cae wedi’r glaw. Mi allan nhw fod yn ddigon abl i gadw’r Bala yn eu lle ond mae’r cyfan yn dibynnu ar eu hwyliau ar y diwrnod. Mi fydd y ddau dîm fel ei gilydd yn awyddus iawn i ennill gan fod codi o’r ail safle o’r gwaelod yn gwbl angenrheidiol i’r Rhyl er bod ail hanner y tymor ganddyn nhw i adfer hunanbarch. Mae’r gêm nos Fawrth nesaf yr un mor bwysig i’r Bala pan fydd Caerfyrddin yno a’r Hen Aur yn brwydro am le yn y chwech uchaf.
Y gêm a wnaeth argraff y Sadwrn diwethaf oedd honno yn y Drenewydd. Mi aeth bechgyn Chris Hughes ar y blaen 2-0 yn erbyn y pencampwyr yn gynnar yn yr hanner cyntaf. Roedd hi’n hwyr yn yr ail hanner cyn i’r Seintiau gael yr ail gôl i ddod yn gyfartal. Y Calan hwn maen nhw’n wynebu ei gilydd eto, yn Park Hall y tro hwn a’r Drenewydd yn gobeithio y medran nhw wneud cymaint o argraff o flaen y dorf dros y ffin. Wedi cael blas arni unwaith mi fyddan nhw’n ffyddiog o roi gêm dda arall i brif dîm y gynghrair.
Ar y Calan hefyd y mae Aberystwyth am geisio ennill eto yn erbyn Hwlffordd ac Airbus â’u bryd ar orchfygu Gap Cei Connah y tro yma. Mae Aber mewn sefyllfa gref i gamu i’r hanner uchaf. Ond mae’r awyrenwyr a Gap yno’n uchel yn barod ac ychydig o amser sydd ar ôl i’w disodli.
Y Sadwrn hwn y mae’r gêm arall lle mae Port Talbot yn mynd i Gaerfyrddin gan obeithio talu’r pwyth yn ôl am y gweir a gawson nhw y Sadwrn diwethaf. Digon prin y bydd hynny’n digwydd unwaith y mae bechgyn Mark Aizlewood wedi rhoi eu meddwl ar waith.
Serch hynny, mae Port Talbot wedi colli’n drwm un Sadwrn a chrafu gêm gyfartal y Sadwrn wedyn a fyddai hi ddim syndod fod hyn yn digwydd eto.