Pêl-droed

RSS Icon
20 Mai 2011
Androw Bennett

Dau begwn

Dwy noson. Gorfoledd nos Lun. Digalondid nos Fawrth. Dwy ddinas. Llwyddiant nos Lun. Methiant nos Fawrth.

Nid felly oedd diweddglo’r tymor pêl-droed i fod. Er, wrth gwrs, yn dilyn methiant naill ai’r Elyrch neu’r Adar Gleision i ennill dyrchafiad awtomatig, roedd `na siom yn aros i un o’r clybiau Cymreig yn y Bencampwriaeth. Er gwaetha diflastod nos Fawrth, erys y posibilrwydd fod `na siom arall ar y gorwel wrth i gefnogwyr Abertawe baratoi ar gyfer eu pererindod i Wembley ar 30 Mai.

Rhaid, fodd bynnag, bod yn gadarnhaol ar ran yr Elyrch a’u cefnogwyr ar hyn o bryd wrth i glwb pêl-droed Abertawe edrych ymlaen yn eiddgar at un cyfle arall i gyrraedd pinacl y pyramid cynghreiriol. Os gall carfan Brendan Rodgers a’r cefnogwyr ailgreu’r naws a welwyd yn Stadiwm Liberty ar ddechre’r wythnos hon a’i gario i Ogledd Llundain ymhen deng niwrnod, mae’r posibilrwydd o weld mawrion Manchester United, Arsenal, Lerpwl, a.y.y.b. yn chwarae yn Ne Orllewin Cymru’n realaeth wedi’r hirymaros.

Gyda’r clybiau Cymreig ill dau wedi llwyddo i gadw sgorfwrdd glân ar eu hymweliadau i Nottingham Forest a Reading yng nghymalau cyntaf rownd gynderfynol y gêmau ailgyfle, mawr oedd y disgwyl dros y Sul am weld diweddglo cwbl Gymreig a fyddai’n setlo, dros dro o leiaf, pa un ohonynt yw prif glwb Cymru.

Erbyn hyn, dim ond yr Elyrch sy’n hawlio’r llawryfon ac, os llwyddo yn Wembley, y nhw fydd yn eu meddu am o leiaf un tymor tra bydd cefnogwyr yr Adar Gleision yn gobeithio’u dilyn i uchelfannau’r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor nesaf.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |