Pêl-droed
Aberystwyth i aros yn y gwaelodion petai Caerfyrddin yn eu curo
Dwy gêm nos Wener a phedair ar y Sadwrn gawn ni yr wythnos hon. Dyw hi ddim wedi bod yn gyfnod da i Aberystwyth yn ddiweddar a cholli a wnaethon nhw y Sadwrn diwethaf ym Mrychdyn. Mae hynny’n golygu eu bod yn y chwech isaf gyda chlybiau fel Bangor a Phort Talbot wrth ddechrau eu gêm y nos Wener hon yn erbyn Caerfyrddin.
Yr Hen Aur sydd uchaf o’r chwech ar y gwaelod, o un pwynt ac un ar y blaen i Aber a Bangor. Mi ddaeth tîm Mark Aizlewood drwyddi yn erbyn Bangor y Sadwrn diwethaf er eu bod wedi cael gêm yn gynharach yn yr wythnos. Roedden nhw wedi teithio i Groesoswallt a cholli 4-1 yn rownd gyn-derfynol Cwpan Word. Mi gawson nhw gôl annisgwyl gan gefnwr Bangor, Leon Clowes, i’w rhoi ar y blaen. Cyn y diwedd roedd Bangor ddau chwaraewr yn brin wedi iddyn nhw gael cardiau coch a cholli’r gêm 2-1, y tro cyntaf ers tro iddyn nhw golli yn y Waun Dew.
Caerfyrddin fydd yn teithio i Aberystwyth y tro hwn ac os bydd y tywydd yn ddigon caredig iddyn nhw gynnal y gêm mae’n bosib y gall tîm Ian Hughes ddal eu tir. Os collan nhw mi all fod yn anodd iddyn nhw godi i’r chwech uchaf cyn y gwahanu mawr ddechrau’r flwyddyn.
Mae’r un peth yn wir am Fangor. Dyw hi ddim yn argoeli’n dda iddyn nhw wrth wynebu’r Bala y nos Wener yma. Mi gollson nhw 3-0 ym Maes Tegid ym mis Medi a gartref o’r un sgôr Ionawr diwethaf ac mae’n bosib y bydd y Bala yn dal yn rhy gryf iddyn nhw gartref y tymor hwn eto. Fydd hi ddim yn hawdd i Fangor os bydd y ddau gerdyn coch wedi dod i rym yn syth.
Y Sadwrn hwn mae MBi Llandudno yn dechrau a hwythau yn yr ail safle yn y tabl, os na fydd y Bala wedi cael triphwynt ym Mangor. Hwn yw’r clwb sydd wedi gwneud argraff ar yr uwch gynghrair y tymor hwn ac maen nhw’n gobeithio para i wneud hynny yn erbyn Gap Cei Connah yr wythnos hon. Mae’n rhyfedd mai dim ond un gôl a sgorion nhw yn erbyn Hwlffordd y Sadwrn diwethaf a hwythau wedi llwyddo i roi tair heibio golwr y Seintiau Newydd ddechrau’r mis. Gyda Gap wedi ailfywiogi mi fydd hon yn gêm gwerth ei gweld.
Y Seintiau sydd ar Sgorio y Sadwrn hwn a’r awyrenwyr sydd yn Park Hall yn eu herio. Er iddyn nhw ddod o Bort Talbot wedi ennill gydag un gôl yn unig mae hi’n fater gwahanol gartref ar y carped. Digon prin y bydd Airbus yn ddigon llewyrchus i’w trechu. Un peth yw cadw Aberystwyth yn ddistaw ym Mrychdyn, peth arall yw mynd i Groesoswallt a chael y gorau ar y Seintiau.
Gareth Owen a’i garfan o’r Rhyl sydd yn Hwlffordd yn gobeithio gwneud yn well na gêm gyfartal eto fel y cawson nhw yn erbyn y Drenewydd y Sadwrn diwethaf ac yn Park Hall yr wythnos cynt. Mae’r Drenewydd wedi llithro yn y tabl ond yn gobeithio gwella peth ar hynny pan ddaw Port Talbot atyn nhw y Sadwrn hwn.