Pêl-droed

RSS Icon
13 Mai 2011

Hen ben Legg yn ysbrydoli Llanelli

Nid oedd enw Bangor i fod ar Gwpan Cymru am y pedwerydd tro ers y diwrnod pan sgoriodd Llanelli bump yn eu herbyn ar Ffordd Farrar.

Cwta fis yn ôl roedd yr hen ben Andy Legg wedi gweld sut i ddatgloi’r Dinasyddion, hyd yn oed gyda’u capten James Brewerton ar y cae. A gyda’r un tactegau a chyflymder y llwyddodd cochion Llanelli i’w curo o 4-1 y Sul diwethaf ar Barc y Scarlets.

Er ei bod yn anodd credu ond hwn oedd y tro cyntaf i fechgyn Stebonheath ennill Cwpan Cymru. Roeddynt o fewn dim i’w hennill dair blynedd yn ôl pan oedd y ffeinal yn y Drenewydd.

Aeth pethau’n sur braidd rhwng Bangor a hwythau y pnawn hwnnw, ond Bangor oedd yn fuddugol ar ôl amser ychwanegol.

Ond y tro hwn ’doedd dim dwywaith o’r munud cyntaf pwy oedd y meistri. Aeth bechgyn Andy Legg ati gyda’u dwyster a’u grym i osod pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn eu lle.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |