Pêl-droed

RSS Icon
17 Tachwedd 2015

Tynnu enwau trydedd rownd Cwpan FA Lloegr ar ddechrau Gwobrau Chwaraeon Cymru 2015

Bydd BBC Cymru Wales a Chwaraeon Cymru yn croesawu seremoni hir-ddisgwyliedig tynnu enwau Trydedd Rownd Cwpan FA Emirates i Seremoni Gwobrau Chwaraeon Cymru, Nos Lun 7 Rhagfyr.

Ar ddiwedd blwyddyn anhygoel ym myd chwaraeon Cymru, bydd y seremoni tynnu enwau hir-ddisgwyliedig yn ychwanegu cyffro ychwanegol at y digwyddiad, sy'n cael ei gynnal yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd.

Dywedodd Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru Wales, Geoff Williams: "Mae tynnu enwau Trydedd Rownd Cwpan FA Lloegr bob amser yn un o achlysuron mwyaf hir-ddisgwyliedig ac eiconig y tymor pêl-droed, ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni'n croesawu'r digwyddiad pwysig hwn i Gymru."

Ychwanegodd Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru, Sarah Powell: "Ar noson pan fyddwn ni'n dathlu goreuon chwaraeon elitaidd a llawr gwlad Cymru, mae'n fraint gallu cynnal seremoni tynnu enwau Trydedd Rownd Cwpan FA Lloegr yng nghartref chwaraeon Cymru."

Bydd seremoni Cwpan FA Lloegr yn cael ei chyflwyno gan Mark Chapman yn fyw ar BBC Two a BBC Two Wales am 7pm.

Bydd seremoni Gwobrau Chwaraeon Cymru, sy'n cael ei chyflwyno gan Jason Mohammad a Dot Davies, yn fyw ar bbc.co.uk/sportwales ac ar BBC iPlayer am 8pm ar 7 Rhagfyr ac fe fydd ar gael hefyd drwy bwyso'r Botwm Coch ar 8 Rhagfyr.

Llun: Mark Chapman 

Rhannu |