Pêl-droed
Dau dîm o bob pen i’r tabl ben-ben unwaith eto
Mi aeth Aberystwyth i’r Rhyl wythnos yn ôl a methu manteisio ar dymor gwael y gwynion. Gêm gyfartal oedd hi yn y diwedd oedd yn well canlyniad i Aber na’u dwy gêm flaenorol lle’r oedd pedair gôl wedi eu sgorio yn eu herbyn. Roedd yn galondid bach i’r Rhyl hefyd sydd wedi gweld colledion drwg yn y Belle Vue yn ystod y tymor.
Yr wythnos hon mae bechgyn Gareth Owen yn ei throedio am Groesoswallt, a fydd hynny ddim yn codi llawer ar eu calonnau wrth gofio sut mae’r Seintiau Newydd yn medru chwarae ar eu carped eu hunain. Sut bynnag, mae’r Rhyl yn gwybod eu bod wedi eu cadw i gêm ddi-sgôr gartref ar ddechrau’r tymor ac mi fydd hynny’n arf bychan i roi hwb i’w gêm yn Park Hall.
Dal i ddod dros y sioc o gael gêm mor galed yn Llandudno y Sadwrn diwethaf y bydd y Seintiau. Y nhw sy’n sgorio gynnar mewn gêmau fel rheol ond y tro yma roedd MBi Llandudno ar y blaen ddau funud wedi dechrau’r gêm. Mi gafodd y Seintiau afael ynddi wedyn ond roedd y sgôr 3-4 yn dangos pa mor wydn yw tîm Alan Morgan.
Croesawu Port Talbot y mae Aberystwyth yr wythnos hon. Wedi colli pum gêm yn olynol mi wnaethon nhw ddangos i Fangor eu bod yn medru sgorio dwy gôl o fewn munud yn hanner cyntaf y gêm i fynd a hi. Y tro diwethaf iddyn nhw chwarae Aber mi enillodd Port Talbot 4-2. Efallai na wnan nhw hynny y tro hwn ond mi fydd yn gêm galed arall i dîm Ian Hughes ddygymod â hi. Mi gawn ni weld Port Talbot am yr ail wythnos yn olynol ar Sgorio y Sadwrn hwn.
Braidd yn betrus wrth deithio i’r gogledd am yr ail waith mewn wythnos y bydd Caerfyrddin. Mi gwason nhw dipyn o gweir yn erbyn Gap Cei Connah y Sadwrn diwethaf gan ddangos fod gwerth newid y dynion wrth y llyw. Mi gollodd y Bala hefyd am unwaith a’r awyrenwyr yn dangos fod rhywfaint o ruddin ynddyn nhw o hyd. Dau dîm wedi colli eu gêmau diwethaf fydd ym Maes Tegid y Sadwrn hwn ond mae’n debyg mai’r Bala aiff â hi.
Ar eu taith i Hwlffordd y mae Gap Cei Connah a’r tîm cartref yn gobeithio cael gwell hwyl arni nag yn erbyn y Drenewydd y Sadwrn diwethaf. Mae’n dibynnu llawer a fydd Gap yn dal i danio eto yr wythnos hon.
Mae eithaf tasg yn wynebu’r Drenewydd. MBi Llandudno fydd ym Mharc Latham yn gwybod eu bod wedi colli 0-2 pan ymwelodd bechgyn Chris Hughes â Llandudno ddechrau’r tymor. Ers hynny maen nhw wedi lledu eu hadennydd ac wedi llwyddo i wneud eu marc. Mi ddylai hon fod yn dipyn o gêm ac yn un lle gall tîm Alan Morgan dalu’r pwyth yn ôl.
Am y tro cyntaf y tymor hwn mae Bangor yn chwarae ar y Sul. Airbus sy’n ymweld ac maen nhw wedi bod yn ddraenen yn ystlys y Dinasyddion gartref, er i’r annisgwyl ddigwydd yn gynharach yn y tymor. Bryd hynny aeth Bangor i Frychdyn a’u curo 1-4. Digon prin y gall hynny ddigwydd eto ar eu cae eu hunain.