Pêl-droed
Y Bala i godi neu ddisgyn ar faes yr awyrenwyr
Does dim dadl nad oes ambell gêm addawol y tu hwnt yr wythnos hon. Mae’r un gyntaf heno ym Mrychdyn lle mae’r awyrenwyr yn croesawu bechgyn Maes Tegid. Wedi llwyddo’n dda hyd yma mae’r Bala yn ail yn y tabl, bum pwynt ar ôl y pencampwyr a phump o flaen MBi Llandudno. Dydyn nhw ddim wedi colli pwyntiau llawn ers mis pan gawson nhw gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn clwb brenhines y glannau.
Roedden nhw’n feistri corn ar Bort Talbot y Sadwrn diwethaf ac yn dipyn rhagorach na’r durwyr oedd wedi eu cadw i gêm ddi-sgôr yn y GenQuip ar ddechrau’r tymor. Fydd hi ddim mor hawdd o bosibl iddyn nhw yn erbyn Airbus heno, er bod rheolwr yr awyrenwyr, Andy Preece, yn dal i ddweud ei fod yn brin o chwaraewyr i ddewis ohonyn nhw.
Mi welwyd fod y rhuddin yn dal ynddyn nhw yn y Waun Dew. Wedi mynd ar ei hôl hi’n gynnar dydd Sadwrn mi gafodd Airbus y llaw uchaf ar Gaerfyrddin erbyn y diwedd a neidio i’r pumed safle yn y tabl, yn nes i’r lle y buon nhw gydol y tymor diwethaf. Gan iddyn nhw gael blas ar ennill mae’n bosibl y gallan nhw ddal ati i fugeilio’r Bala, a’u curo.
Braidd yn benisel fydd Aberystwyth yn teithio am y Rhyl heno. Yn eu dwy gêm gartref ddiwethaf maen nhw wedi gadael wyth gôl i mewn a dim ond sgorio un eu hunain. Dyw’r Rhyl ddim cystal tîm a’r ddau ddiwethaf a fu’n herio Aber ond mae ganddyn nhw gefnwyr styfnig a all eu rhwystro rhag gwneud eu marc.
Heb amheuaeth y gêm ddifyrraf yfory yw honno yn Llandudno pan fydd y Seintiau Newydd draw ym Mharc Maes Du. Mi ellid bron a dweud eu bod wedi cael buddugoliaeth yn Park Hall yn ail gêm y tymor wrth gadw’r Seintiau i gêm gyfartal 1-1: y newydd-ddyfodiaid yn synnu’r pencampwyr a thynnu ychydig o wynt o’u hwyliau fel y gwnaeth y Rhyl yr wythnos wedyn. Dydyn nhw ddim wedi cael eu ffordd eu hunain gymaint y tymor hwn a dyna sy’n gwneud y gêm yn Llandudno yfory yn un mor atyniadol. A all criw Alan Morgan eu curo y tro yma?
Mi fyddai wedi bod yn fwy o hwyl gweld hon ar Sgorio bnawn yfory yn lle Port Talbot yn erbyn Bangor. Dyna ni, mae’r drefn wedi ei pharatoi ymhell cyn hyn a byddai rhai yn dweud diolch fod rhyw fath o bêl-droed ‘byw’ yn ôl ar S4C wedi’r rygbi rhyngwladol. Os na fydd Port Talbot wedi codi eu hysbryd ar ôl eu hymweliad â’r Bala mae’n ddigon posibl y gall bechgyn Neville Powell ennill pwynt neu dri cyn i’r camerâu ddiffodd.
Wedi cadw’r Seintiau Newydd i 0-2 wythnos yn ôl mi fydd Hwlffordd yn weddol hyderus y gallan nhw gael trefn ar y Drenewydd yfory. Gwir iddyn nhw ddangos i Gap Cei Connah be’ ‘di be’ y Sadwrn diwethaf ond digon prin y gallan nhw gael cystal hwyl yn erbyn Hwlffordd.
Yr Hen Aur sydd yng Nglannau Dyfrdwy gyda chyfle i ennill triphwynt arall i’w codi’n ôl i hanner uchaf y tabl o bosibl.