Pêl-droed

RSS Icon
15 Hydref 2015

Gêm arall i’r Seintiau godi ofn ar Fangor

Dyw hi ddim yn hawdd dweud beth fydd yn digwydd ym Mrychdyn nos fory, mae hi’n llawer haws darogan sut y bydd hi ym Mangor. Mae pump o gêmau’r Uwch Gynghrair yn cael eu cynnal y nos Wener yma, y cyfan ar wahân i un gêm dydd Sul.

Yn sicr, yn Stadiwm Prifysgol Bangor y bydd y petruso mwyaf. Mae’r pencampwyr yn ymweld y tro cyntaf y tymor hwn ac erbyn hyn dyw hynny ddim yn newydd da i’r Dinasyddion. Digon prin nad oes neb sy’n ymwneud â Bangor yn medru anghofio’r chwip din drom a gawson nhw adeg y Pasg y llynedd, yn nhymor 2013-14. Oedd roedd hi’n codi cywilydd mawr ar y tîm a’r cefnogwyr pan gawson nhw eu chwalu 1-9 gan y Seintiau y diwrnod hwnnw – a’r gêm yn fyw ar deledu i roi halen yn y briw.

Gwangalon oedd yr un pobl yn mynd i Park Hall ar ddechrau’r tymor wedyn. Ond mi gawson nhw sgôr reit barchus y noson honno, colli 2-0 yn unig. Ym Mangor ymhen rhai wythnosau cael eu sodro 0-5 oedd eu hanes a welson nhw mo’i gilydd wedyn tan bythefnos yn ôl. Yr un sgôr â’r ymweliad diwethaf oedd hi bryd hynny, 2-0. Dyw’r hanes diweddar ddim o blaid y Dinasyddion, mae’n amlwg. Cadw’r sgôr yn eu herbyn gyn lleied â phosibl yw’r unig beth all ennyn rhywfaint o barch i Neville Powell a’i dîm.

Mae hi bron yn bum mlynedd ers i Fangor lwyddo i’w curo gartref ac ennill y bencampwriaeth. Breuddwyd bell iawn yw hynny erbyn hyn wrth i Fangor dreulio dechrau’r ail dymor tua gwaelodion y gynghrair. Gwelwn ddarlun clir sut y cwympodd y cedyrn a cholli arian Ewrop yr un pryd.

Stori wahanol yw hi yn hanes eu cymdogion, MBi Llandudno. Maen nhw’n medru dal y pwysau yn y chwech uchaf. Heno mae ganddyn nhw’r mater bach o fynd i Frychdyn i ddal pen rheswm gyda’r awyrenwyr sydd bwynt yn unig o’u blaen. Mi wnaethon nhw’n dda i gadw’r Bala draw y Sadwrn diwethaf i gael pwynt o’r gêm ddi-sgor. Mae’n ddigon posibl y byddan nhw’n medru cadw Airbus yn ddistaw eto ac efallai eu trechu fel y gwnaethon nhw ym Mharc Maesdu bythefnos yn ôl i roi sbonc uwch fyth yn sodlau eu rheolwr, Alan Morgan.

Gêmau lle mae’r tîmau wedi cyfarfod ei gilydd yn ddiweddar yw’r gweddill heno hefyd. Adar Gleision Hwlffordd sydd yng Nghaerfyrddin yn gobeithio y bydd gôl i’w chael yn rhywle y tro hwn. Ymweld â Chei Connah y mae Aberystwyth ac Ian Hughes yn rhoi gweddi y gallan nhw eu curo ar faes Hollingsworth yn lle bod yn gyfartal eto.

Y Drenewydd sydd ym Maes Tegid yn dal i gofio sut y collson nhw gartref 2-3 yn erbyn y Bala a cholli Shaun Sutton, eu cefnwr soled, a dorrodd ei goes. Mi fyddan nhw’n ei gweld yn anodd eto yn erbyn bechgyn Colin Caton ac mae’n ddigon posibl mai colli a wnan nhw heno hefyd.

Dydd Sul y mae gêm Port Talbot yn erbyn y Rhyl, y clwb a enillodd yn y Drenewydd fis yn ôl ond aeth ar i lawr wedyn a chyrraedd gwaelod y tabl. Colli a wnaeth y dynion dur yn y Belle Vue, mae’n wir a cholli eu dwy gêm ddiwethaf. Maen nhw wedi colli dau dda yr wythnos hon, Cortez Belle a Kaid Mohamed, a wnaiff hynny ddim ond codi calon Gareth Owen a’r Rhyl.

Rhannu |