Pêl-droed
Gorfoledd ar ôl colli
Bore da Gymru! Bore da Walia! Does 'na ddim byd yn syml wrth ddilyn Cymru. Colli ym Mosnia, ond yna gorfoledd wrth ddeall fod Ciprys wedi curo Israel gan adael y drws yn llawn agored i Gymru gymhwyso ar gyfer ffeinals Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Mae’r cynnwrf, y cyffro a’r ymateb llawn mor fyw ac a fu nos Sadwrn. Ie, wir, "le jour de gloire est arrivee!”.
Fu’ na cholled mor chwerw felys erioed? Fu na gymaint o ddathlu ar ôl colli?
Diolch i'r garfan a gafodd ei fagu gan John Toshack, ei ddatblygu gan Gary Speed a’i berffeithio gan Chris Coleman ac Osian Roberts, mae Cymru yn ffeinals Ewro 2016.
I lawer iawn o’r cefnogwyr, yn enwedig i lawer o rheini sydd wedi dilyn eu gwlad ar hyd a lled y cyfandir gan ysbarduno eu gwlad i gyrraedd entrychoedd rhyngwladol, dyma brofiad unigryw.
Ond i rai ohonom, fe fydd yn brofiadau fydd yn atgyfodi byd pêl-droed rhyngwladol cynnar a chynhyrfus ein hieuenctid. Ie, mae rhai ohonom yn ddigon hen i gofio 1958, y gêm gymhwyso 'na yn erbyn Israel, Sweden, Pele, Brasil, John Charles, a Chymru yn cyrraedd wyth olaf Cwpan y Byd! Diolch i Gymru am ail greu profiadau fy ieuenctid.
Ymlaen felly dros y Sianel ond rhaid bod yn wyliadwrus rhag meddwl mai cyrraedd yno ydi'r unig uchafbwynt. Mae Cymru yn ddigon da i wneud ei marc yn y ffeinals, ac fe allwn fynd yno yn llawn gobaith y gallwn gamu ymlaen drwy'r gemau agoriadol ac ymhellach.
Golyga hyn hefyd y bydd yr arian a ddaw yn sgil cymhwyso yn gallu codi proffil y gêm ar hyd a lled y wlad ac ymhellach.
Dydy’ ni gyd wedi siarad am fynd i Ffrainc, ond rŵan mae rhaid meddwl o ddifrif am y peth a phenderfynu sut, a ble i fynd.
Gwlad o dair miliwn, traen poblogaeth Llundain, ymysg y gorau yn y byd, ond gwlad sy’n parhau i orfod brwydro i argyhoeddi rhai pobol mai pêl-droed yn wir ydi prif faes chwaraeon ein cenedl.
Bydd cyrraedd Ffrainc yn siŵr o godi proffil ein gwlad yn fwy na wnaeth unrhyw gêm arall, gyda chymaint o ddiddordeb byd eang mewn pêl-droed, a bydd dim angen i gefnogwyr pêl-droed wisgo fel rhyw gennin Pedr oleuol i dynnu sylw er mwyn ceisio geisio profi eu Cymreictod mewn achlysuron ysbeidiol.
Mae’r diwylliant Cymreig wedi ei drwytho yn llawn yng ngenynnau'r cefnogwyr gwladgarol, yn enwedig y rheini sydd wedi rhoi cymaint wrth deithio cyfandir yn llawn gobaith, awch a chynnwrf wrth ddilyn eu gwlad.
Pa wlad arall a all deithio fel y rhain gan drefnu ymgyrch i helpu plant llai ffodus yn y gwledydd maent yn ymweld â hwy? Mae elusen Cefnogwyr Pêl-droed Cymru a gaiff ei gynnal o dan enw 'Gôl!' yn gwneud cymaint i helpu plant difreintiedig bob tro y mae Cymru yn chwarae mewn gwlad tramor
Ers ei ffurfio yn 2002 mae 'Gôl!' wedi cynnig cymorth i fwy na 30 o achosion da i blant. Gyrrodd criw o’r cefnogwyr 2,500 cilomedr i Fosnia ar gyfer gêm Cymru'r Sadwrn diwethaf, gyda rhoddion o ddillad a chyfarpar chwaraeon gan ymweld hefyd ag achosion da ar y ffordd a gadael y car i elusen yn Kosovo.
‘Gorau chwarae, cyd chwarae!' ydi arwyddair y gymdeithas bêl-droed, a dyma esiampl o’r arwyddair yn cael ei wireddu gan y cefnogwyr dyngarol yma.
Ar y cae, ac oddi ar y cae, mae pêl-droed Cymru yn gosod yr esiamplau orau i bawb.
Tra mae ymgyrch y tîm cenedlaethol ar y cae wedi tynnu sylw cenedl gyfan ac eraill tramor, mae ymgyrch elusen y cefnogwyr, 'Gôl!’ yn un na chaiff cael lawer o sylw ond sydd yn un sy’n dangos calon ac ymroddiad y Cymry yma i osod esiampl ar sut y gall pobol o wahanol ddiwylliant, crefydd, cefndir ac iaith gyd fyw wrth ymateb i achosion da gwahanol wledydd ar eu taith.
Ac fe allwn ninnau wneud ein rhan wrth gyfrannu at wefan Justgiving Tim Hartley, un o ymddiriedolwyr ‘Gôl!’ o dan y pennawd Bosnia or Bust.
Tydi’n amser da i fod yn Gymro!