Pêl-droed
Bangor i ennill y gwpan eto?
Gyda chefnogwyr Bangor yn llawn brwdfrydedd ar ôl ennill Uwch Gynghrair Cymru, disgwylir cannoedd ohonynt ar Barc y Scarlets ddydd Sul.
Ffeinal Cwpan Cymru yw’r diwrnod tyngedfennol nesaf i’r Dinasyddion. Mae llawer yn gofyn a allant wneud y dwbl eleni a dal eu gafael ar Gwpan Cymru am y pedwerydd tro yn olynol.
Yr unig ofid yn y cefndir yw fod eu gwrthwynebwyr – Llanelli – wedi eu curo 5-2 ar gae Ffordd Farrar dair wythnos yn ôl yn un o gêmau pwysig yr Uwch Gynghrair.
Y diwrnod hwnnw roedd Bangor ar eu gwaethaf ac yn edrych fel pe baent wedi rhoi i fyny’r ysbryd i ennill eu cynghrair. Ond daeth yr awch yn ôl o rywle ac wedi teithio i’r de i fwrw’r Sul dros y Pasg hwy oedd yn fuddugol yn y ddwy gêm yn erbyn Port Talbot a Chastell-nedd.
Ac wedi i Gastell-nedd guro’r Seintiau Newydd gan wneud ffafr fawr â Bangor roedd gêm olaf yr Uwch Gynghrair y Sadwrn diwethaf ar Ffordd Farrar am brofi yr un mwyaf blasus ers blynyddoedd.
Daeth digon o dorf i Ffordd Farrar i ddychryn y Seintiau Newydd a rhoi calon newydd i’w tîm. Y ffigwr swyddogol oedd 1707 ond roedd hi’n edrych yn llawer llawnach na hynny o gwmpas y cae. Bu raid aros tan yr ail hanner cyn i’w harwr yng Nghastell-nedd, Craig Garside, sgorio i Fangor.
Honno oedd unig gôl y gêm er bu’n rhaid i’r tîm cartref amddiffyn am eu bywydau i gael eu coroni’n bencampwyr ar y cae yng nghanol miri’r dathlu am y tro cyntaf ers 1995. Mi allant fod yn wynebu mawrion Ewrop ar ôl y mis nesaf.
Anafwyd Garside cyn diwedd y gêm a rhaid gweld a fydd yn ddigon da i fod ar y cae i ddechrau’r gêm yn Llanelli. Dal ar y cyrion y bydd Jamie Brewerton, eu capten, gan ei fod wedi ei wahardd rhag chwarae am bum gêm ar ôl 29 Ebrill.
Bydd bechgyn Andy Legg yn eiddgar i ennill y cwpan. Methu mynd â chwpan y Gynghrair yn ôl i Lanelli a wnaethant y Llun diwethaf gan golli 4-3 yn Aberystwyth yn erbyn y Seintiau Newydd. Aeth y gêm i amser ychwanegol a Scott Ruscoe yn sgorio i dîm Croesoswallt yn eiliau olaf y gêm.
Yn y gêm hon eto bydd y dorf yn sicr o chwarae’i rhan. Gan mai cymharol ychydig o gefnogwyr sydd gan Lanelli, y cannoedd o Fangor fydd uchaf eu cloch. A hynny a all sbarduno’r tîm i ofalu fod y cwpan yn eiddo iddynt am flwyddyn arall.
Llun: Rheolwr Bangor Neville Powell