Pêl-droed

RSS Icon
06 Mai 2011
Androw Bennett

Momentwm

WRTH i unrhyw dymor chwaraeon ddirwyn i ben, agwedd pwysig o waith rheolwr neu hyfforddwr yw ysgogi’i chwaraewyr i ddyfalbarhau hyd eiliadau ola’r ornest olaf, heb wyro oddi ar y llwybr sydd, gobeithio, yn arwain at lwyddiant. Mae rheolwyr y ddau glwb Cymreig yn y Bencampwriaeth, Dave Jones yr Adar Gleision a Brendan Rodgers yr Elyrch, yn meddu ar yr awch a’r gallu i ysgogi’n gyson, ond, unwaith mae’u chwaraewyr wedi croesi’r gwyngalch i’r cae, dim ond ychydig o effaith y caiff yr holl ysgogi a’r paratoi.

Os yw pethe’n mynd o blaid tîm, mae’r momentwm yn gallu’u cario i lwyddiant a buddugoliaeth, ond, pan aiff pethe o chwith, try’r cyfan yn siop siafins ac yn siom i’r clwb ac i’r cefnogwyr. Wrth i’r cyffro gynyddu ar frig y Bencampwriaeth dros yr wythnosau diwethaf, pendiliodd momentwm ac emosiynau cefnogwyr Caerdydd ac Abertawe a dydy’r cyfan ddim drosodd o bell ffordd o hyd, er fod gan y ddau glwb gyfle o hyd am ddyrchafiad.

Mae’n anochel y bydd tîm yn colli ambell ornest o bryd i’w gilydd (fel yn achos Manchester United yn colli i Arsenal ddydd Sul), ond, os am gadw at frig tabl neu ennill rhyw gwpan neu’i gilydd, mae’n angenrheidiol ailddarganfod hunanfeddiant a chadw trwyn ar y maen. Yn anffodus, dydy’r Adar Gleision na’r Elyrch ddim wedi bod yn hollol lwyddiannus yn eu hymdrechion i wneud hynny er eu bod yn haeddu canmoliaeth am ddringo allan o sawl pydew a chadw’u diddordeb cyhyd yn y gystadleuaeth am ddyrchafiad.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |