Pêl-droed

RSS Icon
18 Mehefin 2015
Gan ANDROW BENNETT

Cryfach Gyda’n Gilydd

Cymru 1 (Gareth Bale 25) Gwlad Belg 0

Mae’n amheus a fu `na erioed achlysur mwy ym myd y campau Cymreig na nos Wener diwethaf, pan unwyd y chwaraewyr, y cefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd a’r rhai fu’n gwylio neu yn gwrando ar bob math o gyfarpar technolegol cyfoes i weld sut y gall cenedl fechan herio’r mawrion.

Ryn ni wedi mwynhau llwyddiannau tebyg eraill o bryd i’w gilydd, megis Campau Llawn ein XV rygbi a medalau aur Olympaidd o Lynn Davies yn Tokyo 1964 i Geraint Thomas, Jade Jones ac eraill yn Llundain 2012, ond roedd nos Wener yn rhyfeddod unigryw.

Diddorol cofio taw “Together, Stronger” yw arwyddair Cymdeithas Bêl Droed Cymru – CBDC - (trueni nad oes `na gyfieithiad Cymraeg i’w weld ar eu gwefan er y gallwch glywed rhywbeth i’r perwyl “Gyda’n gilydd rydym yn gryfach” ar recordiau sain CBDC) ac fe wireddwyd yr ymadrodd i’r dim wythnos diwethaf wrth i’n harwyr cyfoes guro Gwlad Belg ar un o’r achlysuron mwyaf cyffrous yn hanes campau ein gwlad fechan.

O gofio am arwyddair CBDC, mwy diddorol fyth yw nodi beth yw arwyddair cenedlaethol Gwlad Belg: “Eendracht maakt macht” (Iseldireg), “L’union fait la force” (Ffrangeg) sy’n cyfieithu i “Undod sy’n creu nerth”.

Dwy wlad unedig yn herio’i gilydd ar gyrion ein Prifddinas, felly, a’r cyffro’n ddi-bendraw cyn, yn ystod ac wedi’r 90 munud o chwarae.

Oes, mae `na lawer yn disgrifio Cenedl y Belgiaid yn wlad fechan hefyd, ond, a hithau yn meddu ar boblogaeth o 11,239,755 yn ôl cyfrifiad Chwefror 2015, mae gan Gymru lai na thraean o hynny, sef 3,063,456 (cyfrifiad 2011), ond fe dorrodd y corrach grib y cawr ar lechweddau Lecwydd nos Wener.

Gellir disgrifio pob aelod o dîm Cymru yn gawr yn dilyn eu camp ryfeddol o guro tîm yn orlawn o sêr profiadol a gyrhaeddodd rownd wyth olaf Cwpan y Byd ym Mrasil y llynedd.

Cyn y gêm, enw Gareth Bale oedd ar flaen tafod pob Cymro yn y dorf yn Lecwydd ac ym mhobman arall lle roedd `na gefnogwr Cymreig yn llechwra a gallu chwaraewr Real Madrid i lechwra greodd y cyfle iddo sgorio unig gôl y gêm a sicrhau buddugoliaeth fythgofiadwy i’w dîm.

Gyda Chymru wedi bod dan gryn bwysau ym munudau cynnar yr ornest, edrychai yn anochel y byddai’r Belgiaid yn sgorio’n weddol gynnar a chreu talcen caled i garfan Chris Coleman i’w ddringo os am ennill y dydd.

Wrth i Gymru fethu hawlio mwy na thraean o’r meddiant yn ystod y cyfnod cynnar `na, gwelwyd undod a chefnogaeth rhyfedd o blith y dorf nad oes llawer yn ei gofio erioed o’r blaen wrth wylio’n ffefrynnau.

Gofynnwyd i Wayne Hennessey fod ar ei orau fwy nag unwaith yn y munudau cynnar a gorfododd hynny iddo fod yn hollol effro i bron bob bygythiad dros yr ornest yn ei chyfanrwydd, er i’w gapten, Ashley Williams, a’i gydymaith yng nghalon yr amddiffyn, James Chester, lwyddo fwy nag unwaith i glirio’r perygl.

Rhoes Coleman dipyn o syrpréis i bawb drwy ddewis Jazz Richards yn un o’r safleoedd amddiffynnol, ond, yng nghwmni Williams, Chester, Chris Gunter a Neil Taylor, llwyddwyd, os nad i ffrwyno’r Belgiaid, i amharu ar allu ymosodwyr yr ymwelwyr i fanteisio ar nifer o gyfleoedd.

Do, daeth Radja Nainggolan (Hennessey yn arbed ergyd gywir a chynnar ganddo), Kevin de Bruyne a Christian Benteke yn agos at sgorio ac fe wastraffodd Eden Hazard un cyfle gwych trwy godi ei ymdrech dros y trawst, ond aeth popeth o blaid Cymru, wrth iddyn nhw greu eu lwc eu hunain.

Falle na fu neb yn fwy lwcus na Gunter, wrth i’r bêl ei daro unwaith yng nghwrt Cymru a mynd dros ei drawst ei hunan heb iddo sylweddoli beth oedd yn digwydd.

Bydd rhai yn galw hynny’n lwcus i Gymru, ond dwli yn unig oedd yn perthyn i weithred Nainggolan greodd gyfle euraid i Bale ar 25 munud a dydy’r arwr Cymreig ddim yn debyg o anwybyddu’r fath gyfle pan yn gwisgo crys coch ei wlad.

Gyda chyfle i’r Belgiaid i glirio’u llinellau a Bale yn araf yn dod nôl wedi iddo groesi’r llinell gwsg wrth i’w dîm ymosod, am ryw reswm peniodd Nainggolan y bêl i gyfeiriad cyffredinol ei gôl ei hunan i roi cyfle i’r Cymro reoli’r bêl ar ei frest, troi a churo Thibaut Courtois am y gôl sicrhaodd y fuddugoliaeth i Gymru.

Er i’r gwrthwynebwyr sicrhau 65% o’r meddiant ar hyd yr ornest, creodd Aaron Ramsey, Joe Allen, Joe Ledley a Bale ei hunan ambell gyfle ac, er iddo weithio’n galed iawn, methodd Hal Robson-Kanu â manteisio ar o leiaf ddau gyfle i ddyblu sgôr Cymru.

Wedi’r fath gêm wefreiddiol a chanlyniad gorfoleddus, ydy, mae’n annheg hollti blew am nam bychan hwnt ac yma ac fe fydd y genedl gyfan yn edrych nôl yn y dyfodol ar nos Wener, 12 Mehefin 2015 yn un o uchafbwyntiau hanes ein tîm pêl droed cenedlaethol.

Bydd rhai yn honni taw wythnos diwethaf oedd YR uchafbwynt mwyaf, ond, arhoswch eiliad, dylem fod yn obeithiol o weld digwyddiadau tebyg neu hyd yn oed rhai gwell yn y dyfodol agos, gyda’r tebygolrwydd nawr o gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016 yn Ffrainc.

Gêm oddi cartref yn Nicosia yn erbyn Cyprus ar nos Iau, 3 Medi sydd nesaf ar y gweill i Gymru a thra bydd Allen yn absennol yn dilyn cerdyn melyn nos Wener, bydd Coleman a’i chwaraewyr yn teithio’n llawn hyder a digon o gyfle dros yr Haf i gefnogwyr benbaladr gnoi cil dros yr wythnosau nesaf a breuddwydio am Ffrainc…

Rhannu |