Pêl-droed

RSS Icon
11 Mehefin 2015
Gan ANDROW BENNETT

Perygl ar y gorwel

Cododd tîm pêl droed Gwlad Belg ar ddechrau’r wythnos hon i’r ail safle ymhlith detholion rhyngwladol FIFA (a dim sgandal yn perthyn i’r cyhoeddiad!) a dyma nhw, nos fory, yn dod i lechweddau Lecwydd i geisio byrstio swigen Cymru ac ymdrech y rheolwr, Chris Coleman, i arwain ei garfan i rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc yr adeg yma y flwyddyn nesaf.

Tra bod ein ffefrynnau yn meddu ar dalentau megis chwaraewr mwyaf costus y byd hyd yn hyn, Gareth Bale, ac athrylith arall yn Aaron Ramsey, mae gan y Belgiaid eu sêr eu hunain ac ambell un, fel, Eden Hazard, yn llawn mor werthfawr os nad yn fwy gwerthfawr petai clwb Chelsea yn ei werthu.

Dydy gwerth ariannol chwaraewr, wrth reswm, ddim yn golygu y bydd e’n serennu ar bob achlysur y bydd e’n camu i’r maes chwarae, fel sy’n amlwg wedi digwydd ar hyd y misoedd diwethaf yn achos Bale wrth i’r Cymro fethu â llwyr argyhoeddi gyda’i glwb, Real Madrid.

Ar y llaw arall, rhaid cydnabod fod Hazard bron yn ddi-eithriad yn llwyddo i arddangos ei ddoniau a’i allu anhygoel i ddatgymalu amddiffyn ei wrthwynebwyr, yn aml yn dawel fach ac yn ddiarwybod er i gefnogwyr Abertawe allu ei gofio’n derbyn cerdyn coch yn Stadiwm Liberty ym mis Ionawr 2013 am gicio un o “fois y bêl” oedd o gwmpas y cae.

Mae’n siŵr y dysgodd Hazard wers bwysig a gwerthfawr y noson honno ac mae’n amlwg ei fod wedi ei aeddfedu i’r fath raddau fel ei fod yn cael ei gyfri gan lawer fel y “Lionel Messi nesaf” ymhlith sêr y gamp ledled y byd.

Tra Bod Gwlad Belg yn meddu ar garfan ar gyfer heno yn cynnwys dwsin o chwaraewyr sy’n chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr (heb anghofio am eu capten arferol, Vincent Kompany, sydd wedi ei wahardd rhag chwarae’n y gêm hon), mae carfan Coleman wedi adeiladu tipyn o fomentwm gwerthfawr ar hyd yr ymgyrch bresennol.

Gydag enwau Thibaut Courtois, Simon Mignolet, Jan Vertonghen, Mousa Dembélé, Marouane Fellaini, Nacer Chadli, Kevin Mirallas, Christian Benteke a Hazard ei hunan yn nhîm y Belgiaid yn gyfarwydd iawn i ddilynwyr pêl droed yr ynysoedd hyn, ryn ni’n gwybod mwy na digon am y rhesymau dros lwyddiant diweddar Gwlad Belg.

Fel sydd wedi digwydd ar draws y cyfryngau ar hyd y dyddiau diwethaf, mae’n anochel fod `na gymharu cryfderau a gwendidau y ddwy garfan ar gyfer heno, gyda’r pwyslais mwyaf yn cael ei roi ar gymharu Hazard a Bale.

Er i glwb y Cymro, Real Madrid, fynd ymhellach ym mhrif gystadleuaeth clybiau Ewrop na Chelsea a Hazard, rhaid cydnabod i glwb crachach Gorllewin Llundain orffen yn Bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr a gwneud hynny’n gyfforddus.

Fel y clywch yn aml gan hen stejars sy’n dilyn y campau, siwrne rhowch yr un nifer o chwaraewyr mewn dau dîm i wrthwynebu ei gilydd ar y cae, mae popeth yn gyfartal rhyngddyn pan gaiff y chwiban cyntaf ei chwythu.

Ydy, mae pethau’n gallu newid yn fuan iawn o hynny ymlaen, ond ryn ni yma yng Nghymru yn gwybod digon am allu Bale i fod yn ddewin gyda’r bêl yn ei feddiant ac mae hynny’n wir am Ramsey ac, o bryd i’w gilydd, am eraill yn nhîm Cymru, fel Joe Allen.

Mae `na ormod o sêr, o prima donnas, falle yn nhîm Real i siwtio Bale ac, er ein bod ninnau, ddilynwyr y gamp, yn ei weld yntau fel seren ein tîm cenedlaethol, mae’r crwt o Ogledd Caerdydd i’w weld yn fwy o “un o’r hogia” wrth wisgo crys coch Cymru a falle cawn ei weld yn ei holl ogoniant nos fory.

 

Ar ôl sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg ym Mrwsel ym mis Tachwedd y llynedd, mae Cymru yn ail yng Ngrŵp B cymal rhagbrofol Euro 2016 a dim ond gwahaniaeth goliau (er yn un sylweddol) yn cadw gwrthwynebwyr heno ar y brig, mae’n ddigon posib taw ar eu gwaith amddiffynnol y bydd pwyslais Ashley Williams a’i griw heno.

 

Mae Williams a’i gyd-Alarch, Neil Taylor, wedi cael digon o brofiad ar hyd y tymor sydd newydd orffen, a hynny’n dra llwyddiannus heblaw am un diwrnod pan chwalwyd Abertawe gan Hazard a Chelsea o 5-0 ar ddechrau’r flwyddyn.

 

Bydd Williams, Coleman ac Osian Roberts (aelod allweddol o dîm hyfforddi Cymru) wedi dysgu gwersi o’u profiadau diweddar a buddugoliaeth ryfeddol y Belgiaid o 4-3 dros Ffrainc mewn gêm gyfartal ym Mharis nos Sul diwethaf yn arddangos i’r dim fod `na berygl ar y gorwel yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno.

Rhannu |