Pêl-droed

RSS Icon
05 Mehefin 2015
Gan ANDROW BENNETT

Wythnos i fynd

“Hir yw pob aros” medd yr hen ddywediad ac mae wythnos arall i fynd cyn gêm fawr ein tîm pêl droed cenedlaethol yn erbyn Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn rownd ragbrofol cystadleuaeth Ewro 2016.

Gyda Chymru heb chwarae yn rowndiau terfynol cystadleuaeth ryngwladol ers Cwpan y Byd 1958 yn Sweden, bu’r cyffro’n cynyddu dros y misoedd diwethaf wrth i’r to presennol o chwaraewyr addo llawer a’r genedl yn aros yn eiddgar i weld os gellir gwireddu’r addewid.

Bydd y gêm yn erbyn y Belgiaid wythnos i heno yn allweddol yn yr ymgyrch i geisio cyrraedd Ffrainc y flwyddyn nesaf gyda’r ddau dîm ar frig Grŵp B wedi cronni’r un nifer o bwyntiau ar ôl chwarae pum gornest er fod gan Vincent Kompany a’i griw gwell gwahaniaeth goliau o dipyn nag sydd gan Ashley Williams a’i gyd-chwaraewyr yntau.

Cyrhaeddodd carfan Cymru yn eu canolfan ymarfer ym Mro Morgannwg ddydd Llun yr wythnos hon ac fe fydd y rheolwr, Chris Coleman, yn gobeithio cadw pob aelod yn holliach ar ddiwedd tymor hir i’r chwaraewyr.

Tra bod y mwyafrif o chwaraewyr Cymru wedi mwynhau pythefnos neu fwy o seibiant ers diwedd eu tymor, cafodd Aaron Ramsey achos i ddathlu yn Wembley am yr ail flwyddyn o’r bron wrth i’w glwb, Arsenal, ennill Cwpan FA Lloegr eleni eto.

Er na sgoriodd y crwt o ardal Caerffili nos Sadwrn diwethaf i ailadrodd ei gamp y llynedd, chwaraeodd e ran allweddol ym muddugoliaeth ei dîm yn erbyn Aston Villa ac, yn llawn mor bwysig i obeithion Cymru, daeth trwy’r prawf olaf `na yn ddianaf.

Ni chafodd unrhyw aelod arall o garfan Coleman lwyddiant cyfuwch â Ramsey ar ddiwedd y tymor, ond chwaraeodd sawl un rannau allweddol yn ymgyrchoedd eu clybiau mewn gwahanol ffyrdd i’w gosod ar lwybr boddhaol ar gyfer paratoi i gynrychioli Cymru.

Mae’n amheus a gyfrannodd unrhyw un gymaint â’r capten, Williams, at lwyddiant ei glwb yntau, Abertawe, yn gorffen yn wythfed yn Uwch Gynghrair Lloegr a sefydlu record newydd wrth gronni 56 o bwyntiau ac ni ddylid anwybyddu cyfraniadau dau o gefnwyr y tîm, Neil Taylor a Jazz Richards.

Un o’r storïau rhyfeddaf ar ddiwedd y tymor oedd y modd yr achubodd Caerlŷr eu crwyn trwy ennill saith o’u deg gornest diwethaf ac Andy King yn chwarae rhan allweddol yn eu llwyddiant i gadw’u safle yn Uwch Gynghrair Lloegr wrth sgorio ail gôl ei glwb yn eu buddugoliaeth dros Abertawe ar 18 Ebrill, bythefnos ar ôl cyrraedd y nod o sgorio 50 gôl i’r unig glwb iddo chwarae drosto yn y cynghreiriau uchaf.

Er taw chwaraewr ymylol, wedi ennill un cap yn unig dros Gymru, yw e, cyfrannodd Paul Dummett at gadw ei glwb yntau, Newcastle, yn yr Uwch Gynghrair er iddo fethu rhai gemau oherwydd anaf ac er gwaetha rhediad hynod ddiflas y Piod ers dechrau’r flwyddyn hon.

Dim ond rhan ymylol yn strategaeth Coleman sydd `na i Shaun MacDonald hefyd a phrin y cafodd cyn-chwaraewr Abertawe lawer o gyfle gyda Bournemouth ar hyd y tymor diwethaf, ond gall yntau ymfalchïo mewn gweld ei glwb yn ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr am y tro cyntaf.

Tra bu King, MacDonald a Dummett yn gallu mwynhau diweddglo llwyddiannus i’w tymor dan amgylchiadau gwahanol i’w gilydd, digon diflas oedd pethe i Sam Vokes a James Chester wrth i’w clybiau hwythau, Burnley a Hull, ostwng i’r Bencampwriaeth.

Heb os, fodd bynnag, Owain Fôn Williams sydd wedi dioddef waethaf dros yr wythnosau diwethaf, yn gweld Tranmere, y clwb y bu’n rhan ohono ers pedair blynedd, yn gostwng o’r Ail Adran i’r Gyngres ac yna’r golwr yn cael ei ryddhau ganddynt fis diwethaf.

Ie, tipyn o gymysgedd fu ffawd rhai o’r chwaraewyr a ddewisodd Coleman ar gyfer y paratoadau cyn herio Gwlad Belg, ond fe fydd y rheolwr yn gobeithio y gall pob aelod gyfrannu dros weddill y paratoi at geisio creu hanes wythnos i heno.

Carfan Cymru: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Owain Fôn Williams (Tranmere), Danny Ward (Lerpwl), Ashley Williams (Abertawe {Capten}), James Chester (Hull City), Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Abertawe), Paul Dummett (Newcastle), Adam Matthews (Celtic), Jazz Richards (Abertawe), Adam Henley (Blackburn), Joe Allen (Lerpwl), Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal), Andy King (Caerlŷr), David Vaughan (Nottingham Forest), Shaun MacDonald (Bournemouth), David Cotterill (Birmingham), Hal Robson-Kanu (Reading), Tom Lawrence (Caerlŷr), Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Charlton), Sam Vokes (Burnley).

Rhannu |