Pêl-droed

RSS Icon
23 Ebrill 2015
Gan GLYN GRIFFITHS

Her yn wynebu merched Cymru

Dydd Llun diwethaf, daeth yr enwau allan o’r het ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop i ferched a fydd i’w gynnal yn 2017.

Mae Cymru wedi cael eu gosod yng ngrŵp wyth, gyda Norwy, Awstria, Israel a Kazakstan.

Gyda Norwy yn o’r gwledydd gorau a mwyaf datblygedig ym myd pêl-droed merched, nid gwaith hawdd fydd hi i ferched Cymru lwyddo i gyrraedd y rowndiau terfynol yn yr Iseldiroedd.

Fodd bynnag, mae gobaith realistig yn bodoli yn enwedig o ystyried fod y ddau dîm uchaf ym mhob grŵp yn cymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol a fydd yn cynnwys un ar bymtheg o wledydd. 

Bydd yn bwysig i Gymru gael cychwyn da y tro yma, gan mai araf fu’r gemau agoriadol yn y gorffennol.

Ond erbyn heddiw mae’r tîm yn fwy profiadol gydag amrediad ehangach o ferched sydd â mwy o brofiad o chwarae ar lefel uwch.

Gwelais ferched Cymru yn chwarae yn erbyn Israel yn ôl yn ar Gae Ras Prifysgol Glyndŵr Wrecsam mewn gêm cymhwyso ar gyfer Ewro 2013, yn ôl ym Mehefin 2012.

Sgoriodd Natasha Harding dair gwaith mewn buddugoliaeth i Gymru o bum gôl i ddim yn y gêm honno a bydd perfformiad tebyg yn y gemau cystadleuol a fydd o’u blaenau ar ôl yr haf eu hangen os am lwyddo i gyrraedd yr Iseldiroedd.

Does gen i ddim amheuaeth na fyddant yn llawn mor llwyddiannus eto yn erbyn Israel, ac felly hefyd yn erbyn Kazakstan.

Bydd y gemau yn erbyn Norwy yn rhai anodd ac felly daw’r ddwy gêm yn erbyn Awstria yn rhai a bydd o bosib yn allweddol o fewn y grŵp. Bydd y gemau yn cychwyn ar ddechrau mis Medi gyda threfn y gemau eto i’w penderfynu.

Rhannu |