Pêl-droed

RSS Icon
26 Mawrth 2015
Gan Androw Bennett

Tu hwnt i Ewrop

Oes, mae `na bosibilrwydd go iawn o weld timoedd pum gwlad Ynysoedd Prydain yn cyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth Ewro 2016, ond, yn rhyfeddol, mae Cymru yn gorfod teithio tu hwnt i ffiniau’r Cyfandir i wynebu ceffylau blaen Grŵp B, sef Israel, yn Tel Aviv amser te ddydd Sadwrn.

O weld Israel ar frig y Grŵp ar hyn o bryd, wedi ennill pob un o’u tair gêm hyd yn hyn, byddai cronni pwynt o ornest gyfartal yn ganlyniad gweddol, ond ni fyddai’n ryfeddod petai Cymru yn ennill, hyd yn oed oddi cartref tu hwnt i ffiniau Ewrop ar achlysur 50ed ymddangosiad Ashley Williams yng nghrys ei wlad fabwysiedig.

Mae’r capten yn gawr yn amddiffyn ei glwb, Abertawe, ac yn nhîm Cymru ac fe fyddai’n wir achos i ddathlu os gellir curo Israel yfory cyn yr her allweddol o wynebu Gwlad Belg yng Nghaerdydd ar 12 Mehefin.

O ran gweddill chwaraewyr Cymru, trist yw nodi’r driniaeth y mae Gareth Bale wedi’i dderbyn gan rai o gefnogwyr Real Madrid yn ddiweddar, ond, os oes `na rywun yng ngharfan Cymru sy’n meddu ar y gallu i oroesi’r fath drafferthion, Bale yw hwnnw.

Petai Williams, Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen (nôl ar ei orau gyda Lerpwl) ar eu gorau nos yfory, falle bydd Cymru yn cymryd cam pwysig at gyrraedd rowndiau terfynol un o’r gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf o fewn cof y mwyafrif o ddilynwyr Cymreig y bêl gron.

 

Grŵp B Cymal Rhagbrofol Ewro 2016:

Chwarae Ennill Cyfartal Colli P

1 Israel 3 3 0 0 9

2 Cymru 4 2 2 0 8

3 Cyprus 4 2 0 2 6

4 Gwlad Belg 3 1 2 0 5

5 Bos-Herz 4 0 2 2 2

6 Andorra 4 0 0 4 0

Carfan Cymru i wynebu Israel:

Golwyr: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Owain Fôn Williams (Tranmere Rovers), Daniel Ward (Lerpwl).

Amddiffyn: Ashley Williams (Abertawe), James Collins (West Ham United), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Abertawe), Sam Ricketts (Wolverhampton Wanderers), Ashley Richards (Abertawe), Adam Henley (Blackburn Rovers).

Canol y cae: Joe Allen (Lerpwl), Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Nottingham Forest), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Shaun MacDonald (AFC Bournemouth).

Ymosod: David Cotterill (Birmingham City), Hal Robson-Kanu (Reading), Tom Lawrence (Caerlŷr), Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Charlton Athletic), Sam Vokes (Burnley).


 


 

Rhannu |