Pêl-droed
Angen mwy
ROEDD Dave Jones, rheolwr yr Adar Gleision, yn llygad ei le yn dilyn buddugoliaeth ei dîm o 4-1 dros Derby County ddydd Sadwrn diwethaf. Clustnododd Jones ar ddiffyg ei dîm i ganolbwyntio ar ôl sicrhau’r triphwynt, gan ildio cic o’r smotyn yn ystod yr amser ychwanegol ar ddiwedd yr ornest a hynny’n rhoi cyfle i Robbie Savage ffarwelio â chae chwarae yn Ne Cymru am y tro olaf gyda gôl i dawelu rhai o’r dorf fu’n ei wawdio gydol y prynhawn.
Nid mwy o ganolbwyntio amddiffynnol yn unig sydd ei angen gan y ddau glwb Cymreig yn agos at frig y Bencampwriaeth ond mae ’na angen mwy o gôliau hefyd. Tipyn o ystrydeb, falle, ond, o weld Norwich yn sgorio hanner dwsin yn Carrow Road heb ildio un yn erbyn Scunthorpe, mae’n amlwg fod gwell cyfuniad o ymosod ac amddiffyn yn hanfodol i sicrhau dyrchafiad.
Mae’n edrych yn debycach fesul dydd y gallai gwahaniaeth gôliau fod yn hollol allweddol i’r ddau glwb Cymreig ymhen pedair wythnos i fory, diwrnod ola’r tymor, pan fydd Caerdydd yn teithio i Burnley ac Abertawe’n croesawu Sheffield United. Rhaid derbyn bellach fod QPR yn mynd i hawlio un o’r ddau safle fydd yn sicrhau dyrchafiad awtomatig, gan wneud hynny cyn iddyn nhw ddod i’n Prifddinas ymhen pythefnos.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA