Pêl-droed

RSS Icon
08 Ebrill 2011

Powell i wynebu ei hen glwb

BYDD calonnau chwaraewyr GAP Cei Connah wedi llamu ar ôl i Fangor golli yn erbyn Prestatyn wythnos yn ôl yn Uwch Gynghrair Cymru.

Oherwyddd yfory y clwb o Sir Fflint fydd yn wynebu deiliaid Cwpan Cymru yn y gêm gyn-derfynol ar gae’r Belle Vue yn y Rhyl. Neville Powell, rheolwr presennol Bangor yw cyn-reolwr GAP Cei Connah a gall hynny roi min ychwanegol ar y chwarae.

Os bydd Bangor yn llwyddo yn erbyn y tîm o Gynghrair Huws Gray hwn fydd y pedwerydd tro yn olynol iddynt fynd ymlaen i ffeinal y cwpan.

Ond yn y mis diwethaf mae’r Dinasyddion wedi colli tair o’u pump gêm a dod yn gyfartal mewn dwy. Yn sicr bydd yn rhaid iddynt dynnu’r ewinedd o’r blew yfory.

Bydd y clwb sydd wedi achub y blaen ar Fangor yn yr Uwch Gynghrair y tro cyntaf y tymor hwn yn chwarae yn erbyn Llanelli yn y gêm gyn-derfynol arall. Ar Goedlan y Parc yn Aberystwyth y bydd y Seintiau Newydd yn disgwyl trechu tîm Parc Stebonheath a hon a welir ‘yn fyw’ ar Sgorio, S4C bnawn yfory am 2.55.

Cyn hynny bydd y gêm yn y Rhyl wedi’i chynnal am 12.30.

Gwobr o £30,000 sy’n aros enillwyr Cwpan Cymru ac mae’r clwb arall sydd yn y ffeinal yn derbyn £20,000.

Llun: Neville Powell

Rhannu |