Pêl-droed

RSS Icon
07 Tachwedd 2014

Darlledu gêm gwpan FA Wrecsam v Woking yn fyw

Bydd S4C yn darlledu gêm rownd gyntaf Cwpan yr FA rhwng Wrecsam a Woking yn fyw ac yn ecsgliwsif ar y sianel ddydd Sul 9 Tachwedd fel rhan o becyn prynhawn o bêl-droed pwerus.

Bydd y sioe chwaraeon brynhawn Sul Clwb ar y Cae Ras Wrecsam ar gyfer y gêm gyfan, gyda'r gic gyntaf am 2.00pm a’r rhaglen yn dechrau am 1.50pm.

Bydd tîm Sgorio hefyd yn darlledu gem Cei Connah v Prestatyn o Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports a chwaraeir yn gynt yn y dydd yn gyfan am 4.00pm.

Tîm rhaglen Sgorio fydd yn gyfrifol am ddarllediad gêm Wrecsam a fydd yn cael ei dangos yn fyw ar yr un pryd ar wefan S4C - s4c.co.uk - sydd ar gael ar-lein ledled y DU. Fe fydd y gêm ar gael ar alw ar-lein am 30 diwrnod.

Mae S4C ar gael ar Sky 104, Freeview 4 a Virgin TV 166 a Freesat 104 yng Nghymru. Tu allan i Gymru, mae ar gael ar Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 166 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gall gwylwyr ledled y DU hefyd wylio S4C ar tvcatchup.com a TVPlayer.com.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, “Mae’n newyddion gwych i gefnogwyr pêl-droed ledled y DU, a hithau’n gem atyniadol rhwng dau dîm yn  y Vanarama Conference. Rydym yn dangos uchafbwyntiau gemau Wrecsam yn rheolaidd ar Clwb ac mae dangos y gêm hon yn adlewyrchu ein hymroddiad i ddarlledu pêl-droed clybiau Cymru pan fo hawliau'n caniatáu. "

 Mae clwb pêl-droed Wrecsam â thraddodiad glew yng nghystadleuaeth y Cwpan FA, a byddan nhw’n gobeithio dathlu eu pen-blwydd diweddar yn 150 oed mewn steil o dan arweiniad y rheolwr newydd Kevin Wilkin.

Rhannu |