Pêl-droed

RSS Icon
01 Ebrill 2011
Androw Bennett

Cymru yn rhy araf

GYDOL yr ornest yn y Stadiwm Mileniwm ddydd Sadwrn diwethaf, ymddangosai aelodau o garfan Cymru fel petaent yn cerdded yn hamddenol o gwmpas y cae o gymharu â’u gwrthwynebwyr. Roedd capten Lloegr, John Terry, a’i gyd-Saeson yn meddu ar lawer mwy o gyflymder ac o gyfrwystra na’n tîm cenedlaethol ninnau ac yn llawn haeddu, mae’n drist gorfod nodi, eu buddugoliaeth gyfforddus.

Trist gorfod nodi hefyd fod rheolwr Cymru, Gary Speed, a rhai o’i garfan wedi cwyno am ansawdd y maes yn dilyn cymaint o ddefnydd diweddar ohono. Manteisiodd carfan Fabio Capello ar gyfleon cynnar i sgorio’u dwy gôl o fewn y chwarter awr cyntaf, cyn i ansawdd y cae gael unrhyw wir effaith ar allu’r chwaraewyr i sefyll ar eu traed neu drafod y bêl.

Rhaid derbyn nad oedd ansawdd y cae, y tywydd na dim byd arall o blaid Lloegr, ond ymddangosai’r dorf, cyn y gic gyntaf o leiaf, yn groch o blaid Cymru ac yn barod â’u gwatwar o bopeth Seisnig, yn arbennig “anthem genedlaethol” Lloegr a’r capten, Terry. Er hynny, roedd ’na lawer mwy o faneri Seisnig i’w gweld o gwmpas yr eisteddleoedd ac, yn dilyn dwy gôl yr ymwelwyr, digon tawedog fu’r Cymry at ei gilydd.

i ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |