Pêl-droed

RSS Icon
01 Ebrill 2011
Androw Bennett

Disgwyl diweddglo cyffrous

GYDAG ond ychydig dros fis yn weddill cyn diwedd y tymor pêl-droed, cynyddu mae’r cyffro unwaith eto ymhlith cefnogwyr yr Adar Glesion a’r Elyrch, gyda’r cyfle ar y gorwel i ddathlu dyrchafiad ac i anghofio am wendidau’n tîm cenedlaethol. Yn ôl y rheolwyr, Dave Jones a Brendan Rodgers, mae’r hyder a’r gobeithion yn cynyddu ymhlith eu chwaraewyr hefyd, gyda’r ddau ohonynt yn gwybod fod eu tynged yn eu dwylo’u hunain dros yr wythnosau nesaf.

Gyda’r Elyrch yn drydydd yn y tabl a’r Adar Gleision yn bedwerydd, mae’r tymor yn y fantol i’r ddau glwb o gofio am siom y llynedd wrth iddyn nhw syrthio wrth ymyl y lan yn dilyn cymaint o addewid, fel eleni, ar hyd y tymor. Does ’na ddim amheuaeth nad yw’r ddau glwb yn chwarae gwell pêl-droed erbyn hyn, ar y cyfan, er i fis Mawrth fod yn dipyn o drychineb iddynt.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |