Pêl-droed
Roeddwn yno
Na, nid adlais o ddatganiad Max Boyce am fuddugoliaeth y Sgarlets dros Deirw Duon Seland Newydd ar Barc Strade ym 1972, ond brolio am imi fod yn bresennol ar achlysur mawr arall yn hanes chwaraeon Cymreig.
Ymdrechodd tîm pêl droed Cymru ddwsin o weithiau ar borfa’r hen Wembley cyn y fuddugoliaeth ryfeddol ar 31 Mai, 1977, pan oedd gôl o’r smotyn gan Leighton James yn ddigon i sicrhau llwyddiant.
Gyda’r byd a’r betws dros y dyddiau diwetha’n ceisio darogan canlyniad y gêm fawr yn erbyn Lloegr yfory’n Stadiwm y Mileniwm yng nghymal rhagbrofol Ewro 2012, rwyf innau’n gallu ymfalchïo’n y ffaith imi fod ymhlith y nifer dethol. Doedd ’na ond rhyw 48,000 yn Wembley ar y noson fythgofiadwy honno 34 mlynedd yn ôl, y lle’n hanner gwag a ninnau Gymry wedi’n halltudio i gornel anghysbell……....
.........Er i’n tîm cenedlaethol syfrdanu llawer gyda buddugoliaeth o 4-1 dros Loegr ar y Cae Ras ym 1980 ar ôl chwarter canrif o fethu â churo’r Saeson yma yng Nghymru, mae’n amhosib gweld y stori honno’n cael ei hailadrodd yfory.
Byddai unrhyw fuddugoliaeth yn plesio, fodd bynnag, ac, o hel f’atgofion am Wembley 1977, byddai sgôr o 1-0 i Gymru’n lleddfu’r boen wedi’r colledion diweddar.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
Llun: Aaron Ramsey, capten Cymru