Pêl-droed

RSS Icon
18 Mawrth 2011
Androw Bennett

Camgymeriad

O BRYD i’w gilydd, ceir cyfle i weld dwli a doniolwch ym myd y campau, ond, gan amla, tristwch yw’r emosiwn amlycaf wrth weld camgymeriad doniol gan unrhyw chwaraewr sy’n chwarae dros glwb mae rhywun yn ei gefnogi. Ailddangosir rhai digwyddiadau doniol ar raglen “A Question of Sport” nawr ac yn y man, gyda’r ffilm yn cael ei atal a’r panelwyr yn gorfod dyfalu ‘Beth ddigwyddodd nesaf?’

Cofiaf wylio gêm yn y Vetch yn Abertawe rywbryd yn y 1960au cynnar pan welais un o’r gôliau rhyfeddaf wrth i aelod o dîm yr ymwelwyr sgorio o ryw ugain llath gydag ergyd ddigon llipa. Yn syndod i bawb, methodd gôlwr yr Elyrch ag arbed yr ergyd, nid unwaith, ond ddwywaith, wrth i’r bêl daro cefn y rhwyd a rhowlio allan gan basio’r truan cyn iddo ddeifio wedi i’r bêl ei basio am yr eildro! Wna i ddim enwi’r chwaraewr achos dydw i ddim yn cofio’n iawn pa un o ddau oedd e, ond fe ’na i gadarnhau nad Cymro oedd e.

Mae ’na Gymro, fodd bynnag, yn enwog am un o’r camgymeriadau gwaetha gan golwr a welwyd erioed, a hynny mewn gornest ym 1967 rhwng Leeds United a Lerpwl yn Anfield. Roedd Gary Sprake ymhlith y goreuon erioed a safodd rhwng y pyst ar gae pêl-droed, ond, yn lle ei thaflu at ei gefnwr chwith, Terry Cooper, llithrodd y bêl o afael y golwr i’w rwyd ei hunan gan roi cyfle i droellwr y disgiau chwarae cân enwog Des O’Connor, “Careless Hands” ar ddechre’r egwyl.

Bnawn Sadwrn diwethaf, yn Pride Park, cartref Derby County, gwelwyd camgymeriad erchyll arall gan Gymro, y tro hwn yn ildio gôl yn erbyn clwb Cymreig, sef yr Elyrch. Rhaid cydnabod i ni weld ychydig o bwysau ar amddiffynnwr canol Abertawe, Ashley Williams, wrth iddo geisio pasio’r bêl nôl at golwr ei dîm, Dorus de Vries, wedi 6 munud o chwarae. Er hynny, doedd ’na ddim esgus gan Williams, sydd bellach yn gonglfaen amddiffyn ein tîm cenedlaethol, am beidio ag edrych i weld ble oedd de Vries cyn cicio’r bêl i gyfeiriad ei gôl ei hunan.

Llun: Ashley Williams

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |