Pêl-droed
Nerfau anniddig
AMHARODRWYDD i wneud y gwaith caib a rhaw oedd y rheswm, yn ôl rheolwr yr Elyrch, Brendan Rodgers, am fethiant ei dîm i guro Watford yn Stadiwm Liberty nos Fawrth. Ar ôl i Stephen Dobbie eu rhoi nhw ar y blaen ar 26 munud, ymddangosai ar brydiau fod Abertawe’n gorffwys ar eu rhwyfau, gan feddwl bod y fuddugoliaeth wedi’i sicrhau a’r triphwynt wedi’u cronni. Mae’n debyg taw’r un amharodrwydd, yn ôl y rheolwr, arweiniodd at y golled yn Scunthorpe dridiau ynghynt ac mae Rodgers yn benderfynol na fydd hynny’n digwydd yn gyson dros y deufis nesaf.
Er i’r perfformiad yn erbyn Leeds bythefnos yn ôl wneud, o bryd i’w gilydd, pethau i ymddangos yn hawdd i’r capten, Alan Tate, a’i gyd-chwaraewyr, fe ddylai’r wers fod wedi’i dysgu o ildio gôl i brif sgoriwr y Bencampwriaeth, Danny Graham, nos Fawrth. Yn lle’r triphwynt disgwyliedig, bu rhaid bodloni ar bwynt yn unig o gêm gyfartal, 1-1.
I ddarllen gweddill yr adroddiad CLICIWCH YMA