Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Rhagfyr 2016

AS Caernarfon yn beirniadu NatWest am siomi cwsmeriaid y dref

Mae AS Plaid Cymru Arfon Hywel Williams wedi cyhuddo NatWest o siomi eu cwsmeriaid ffyddlon wrth i’r banc gadarnhau cynlluniau i gau eu cangen yng Nghaernarfon y flwyddyn nesaf.

Roedd yr AS lleol yn ymateb i'r newyddion bod y banc yn bwriadu cau eu canghen yng Nghaernarfon erbyn Mehefin 2017 fel rhan o raglen gwtogi ar draws gogledd Cymru.

Mae Mr Williams yn cwestiynu y rhesymeg tu ôl i'r penderfyniad ac yn apelio at benaethiaid y banc i ystyried yr effaith y byddai cau’r gangen yn ei gael ar y dref, sydd â diwydiant twristiaeth cynyddol a llawer o fusnesau newydd.

Dywedodd Hywel Williams AS: “Mae bancio yn un o'r gwasanaethau sylfaenol a pwysicaf y mae pobl yn dibynnu arno ac rwy’n ymwybodol o’r pryder lleol sydd yna yng Nghaernarfon yn sgil penderfyniad NatWest i gau eu cangen yn y dref y flwyddyn nesaf.

“Nid yw'n ddigon da i'r banc gynghori pob cwsmer ddefnyddio bancio ar-lein oherwydd rydym oll yn gwybod nad oes gan bawb fynediad i gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel rhannau o Arfon.

“Mae gan fanciau gyfrifoldeb cymdeithasol i wasanaethu ein cymunedau ond yn anffodus mae'r darlun hwn yr un fath ar draws gogledd Cymru, a bydd y cwymp mewn bancio lleol yn brifo y rhai mwyaf bregus unwaith eto.

“Ar adeg pan fo Caernarfon yn ehangu, nid yw’r penderfyniad yma yn gwneud synnwyr o gwbl.

“Rwyf wedi galw am gyfarfod brys gyda NatWest i drafod y penderfyniad.”

Ychwanegodd Siân Gwenllian AC:“ Bydd cau banc NatWest yng Nghaernarfon yn ergyd enfawr i gwsmeriaid ac i ganol y dref.

“Os ydynt yn cau canghennau mewn trefi maint Caernarfon, mae'n codi'r cwestiwn beth fydd yn digwydd i ganghennau mewn cymunedau llai.

“Mae banciau yn ogystal â fferyllfeydd lleol, swyddfeydd post a gwasanaethau eraill yn bwysig i fywiogrwydd canol trefi ledled Cymru.”

Siom â phenderfyniad NatWest i gau gangen Porthmadog

Rhannu |