Mwy o Newyddion
Siom â phenderfyniad NatWest i gau gangen Porthmadog
Mae cynlluniau gan NatWest i gau eu cangen ym Mhorthmadog wedi cael ei herio gan AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts sydd wedi galw ar y banc i ymgysylltu'n llawn â'r gymuned cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol.
Mae'r Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, sydd yn ddiweddar wedi sicrhau ATM allanol ychwanegol ym Mlaenau Ffestiniog yn dilyn penderfyniad HSBC i gael gwared â’u gwasanaethau yn y dref, wedi galw ar NatWest i gydymffurfio'n llawn â'r adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gymdeithas Bancio Prydeinig i gau banciau, a bod yn agored a thryloyw gyda’r gymuned leol.
Dywedodd yr AS Plaid Cymru fod pobl leol yn gynyddol golli ffydd mewn banciau, sefyllfa sy’n cael ei waethygu gan benderfyniadau banciau mawr i gau canghennau gwledig.
Meddai: “Bûm mewn cyfarfod diweddar â swyddogion o NatWest i drafod gwasanaethau bancio yn Nwyfor Meirionnydd. Doedd dim sôn am y bwriad i gau’r gangen ym Mhorthmadog yn ystod y cyfarfod yma.
“Tra fy mod yn hynod siomedig â bwriad NatWest i gau eu cangen ym Mhorthmadog, mae tueddiad clir yn dod i’r amlwg gyda changhennau eraill wedi cau yn ddiweddar ym Mlaenau Ffestiniog, Bermo a Thywyn.
“Rwyf wedi laru clywed fod gan gwsmeriaid y dewis o ddefnyddio gwasanaethau bancio ar-lein gan fod hyn yn diystyru darpariaeth band-eang annibynadwy mewn rhannau o Gymru megis ardaloedd yn Nwyfor Meirionnydd.
“Os yw NatWest yn benderfynol o ddilyn y trywydd yma o gau canghennau yna mae’n ddyletswydd arnynt i ddilyn y canllawiau a osodwyd gan y Gymdeithas Bancio Prydeinig sy’n galw ar fanciau i sicrhau fod mesurau mewn lle i liniaru effaith cau canghennau ar gymunedau.”
Ychwanegodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru Canol a Gorllewin Cymru Simon Thomas AC: "Mae'n drist i glywed y newyddion y bydd cangen NatWest Porthmadog yn cau y flwyddyn nesaf. Mae'n ymddangos bod ardaloedd gwledig yn dwyn y baich cau banciau gan fanciau adwerthu y stryd fawr.
"Mae'n rhaid i'r llywodraeth yn San Steffan weithredu i sicrhau bod gan bawb fynediad i fancio. Er eu bod yn gwmnïau preifat sy'n gwneud penderfyniadau masnachol, mae mynediad i fancio yn hanfodol mewn bywyd modern a chymryd rhan mewn democratiaeth.
“Mae gan Lywodraeth Cymru rôl i hyrwyddo dewisiadau amgen i fanciau fel undebau credyd. Yn anffodus rydym wedi gweld toriad yn yr arian ar gael i gefnogi undebau credyd gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd nesaf.”
“Fel tîm cynrychioli Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd bydd Liz Saville Roberts AS a minnau yn ymgyrchu yn erbyn cael gwared â gwasanaethau lleol."