Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Ionawr 2016

Aelodau Cynulliad yn cefnogi diwrnod cofrestru etholwyr

Mae’r Aelodau Cynulliad Plaid Cymru Simon Thomas a Bethan Jenkins wedi cyflwyno cynnig yn y Cynulliad Cenedlaethol i gefnogi diwrnod cofrestru etholwyr ar Chwefror 5.

Yn yr wythnos cyn y diwrnod, bydd grwpiau yn cydgordio ymdrechion i ofalu na fydd pobl yn colli eu llais. Cyflwynwyd datganiad o farn i gefnogi’r wythnos a drefnwyd gan ymgyrch ‘Bite the Ballot’ a phartneriaid eraill.

Dywedodd AC Plaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas: “Cred Plaid Cymru y dylid ail-greu senedd ieuenctid i bobl ifanc Cymru. Camgymeriad oedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i ladd y Ddraig Ffynci.

“Rwy’n meddwl fod yn rhaid i ni fynd ymhellach a chreu rhith-Senedd Gymreig ar gyfer syniadau. Un ffordd y gallwn ddwyn pobl i mewn fwy yw gofyn iddynt gyflwyno syniadau am gyfreithiau newydd.

“Mae astudiaethau yn dangos, po gynharaf y gallwn ddwyn pobl i mewn i wleidyddiaeth, mwyaf tebyg ydynt o ymwneud am oes.”

PERTHNASOL: Yr Arglwydd Wigley yn galw ar y Llywodraeth i ystyried gosod treth trosiant ar gwmniau sy'n osgoi talu trethi

Ychwanegodd yr AC dros Orllewin De Cymru Bethan Jenkins: “Mae’n bleser gan Blaid Cymru gefnogi diwrnod cofrestru etholwyr yn y flwyddyn bwysig hon gydag etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai a’r posibilrwydd o refferendwm Ewropeaidd.

“Mewn llai na 100 diwrnod, bydd pobl yn mynd i’r bythau pleidleisio i ddewis llywodraeth nesaf Cymru, ond mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru os ydych am bleidleisio.

“Mae’n fater o bryder, gyda’r symudiad at gofrestru etholiadol unigol, fod miloedd o bobl wedi diflannu oddi ar y gofrestr. Dylid croesawu unrhyw symudiad i gael mwy o bobl allan i bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol.”

Mwy o fanylion yma -  https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

Rhannu |