Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Ionawr 2016

Yr Arglwydd Wigley yn galw ar y Llywodraeth i ystyried gosod treth trosiant ar gwmniau sy'n osgoi talu trethi

Mae’r Arglwydd Dafydd Wigley o Blaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i ystyried rhoi treth trosiant ar gorfforaethau rhyngwladol sy'n siffrwd eu rhwymedigaethau treth corfforaethol i wledydd tramor gyda lefelau treth is.

Yn ystod Cwestiynau Llafar yn Nhŷ'r Arglwyddi ddoe, anogodd yr Arglwydd Wigley y Llywodraeth i ystyried y farn gyhoeddus ymhlith trethdalwyr cydwybodol sydd wedi eu cythruddo â bargen wâg y Canghellor gyda Google.

Wrth siarad yn Nhŷ'r Arglwyddi, dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley: “Rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn cymryd i ystyriaeth y teimladau cryf ymhlith busnesau bach sydd yn talu eu trethi ar amser, pan fyddant yn gweld y cwmniau mawr yn ymddwyn yn y modd hwn.

“A yw'r Llywodraeth wedi ystyried y posibilrwydd o gyflwyno rhywfaint o dreth trosiant fel dewis amgen i dreth gorfforaeth, mewn amgylchiadau o'r fath lle mae cwmnïau yn siffrwd atebolrwydd treth corfforaethol i wledydd eraill, a byddai treth trosiant yn rhywbeth na allent osgoi?”

Ychwanegodd yr Arglwydd Dafydd Wigley: “Bydd busnesau bach ledled Cymru sy’n cael trafferth gyda biwrocratiaeth y system dreth yn cael eu cythruddo go iawn gyda ymgais wan y Canghellor i ddwyn Google i gyfrif am flynyddoedd o osgoi talu trethi heb eu talu.

"Mae'r cewri rhyngwladol yma yn rhagori mewn osgoi talu trethi a ddylai fod wedi eu talu dros nifer o flynyddoedd; maent yn cam-drin eu maint a'u dylanwad er mwyn osgoi talu'r swm cywir o dreth yn y gwledydd y maent yn gweithredu ynddynt.

"Mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth i ddangos rhywfaint o arweiniad ar y mater hwn neu anfon y neges anghywir i'r cyhoedd.”  

Rhannu |