Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Ionawr 2016

Cyfres o berfformiadau gwych yng Ngŵyl Gerdd Bangor

Fe fydd un o brif wyliau cerddol Cymru, Gŵyl Gerdd Bangor, yn agor eleni ar Fawrth 1af gyda chyngerdd arbennig gan Gôr Glanaethwy, sêr y gyfres deledu ‘Britain’s Got Talent.’ Ac am y tro cyntaf erioed, bydd cantorion y  ‘Swingles’ yn serennu mewn cyngerdd unigryw.

Yn ganolog i’r Ŵyl, bydd gweithiau gan gyfansoddwyr benywaidd. Bydd cyngerdd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cynnwys  datganiad gan y Soprano, Ruby Hughes a’r perfformiadau cyntaf erioed o sawl gwaith newydd gan ferched o Gymru. Ceir hefyd yn yr Ŵyl y perfformiad cyntaf erioed yn Ewrop o ‘The Open Field’, gwaith gan y gyfansoddwraig Hilary Tann, sydd hefyd yn  enedigol o Gymru. Cafodd y gwaith ei ysbrydoli gan ddigwyddiadau dramatig Sgwar Tiananmen yn Tseina, dros chwarter canrif yn ôl.

PERTHNASOL: Marw Cynghorydd Plaid Cymru Bangor, Eddie Dogan

Cynhelir yr Ŵyl eleni dros chwe niwrnod, rhwng Mawth 1af a Mawrth 6ed ar y thema ‘Llais/Lleisiau’. Mae yma rywbeth at ddant pawb gan gynnwys cyngherddau, dosbarthiadau meistr a phrosiectau addysgiadol i ysbrydoli disgyblion ysgolion a cherddorion y Gogledd.

Yn y cyngerdd agoriadol, bydd Côr Glanaethwy yn perfformio darnau fwy heriol o’u repertoire, gan gynnwys ‘Cariad’, un o weithiau’r cyfansoddwr ifanc Ieuan Wyn.

Ceir gwledd o gerddoriaeth arbrofol ar yr ail noson, gydag Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor a byr fyfyr dwyreiniol gyda Ensemble Fusion, datganiad ar y nos Iau gan Elin Manahan Thomas a gig yng nghwmni’r band Sŵnami i ddilyn.

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio ar y nos Wener, a’r Swingles i’w gweld ar y nos Sadwrn. I gloi’r Ŵyl, ar ddydd Sul, Mawrth 6ed, mae cyngerdd gan y pianydd nodedig o Rwsia, Xenia Pestova ag Electroacwstig Cymru. 

Meddai Cyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl, Dr Guto Pryderi Puw, Uwch Ddarlithydd a Phennaeth Cyfansoddi yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor: "Dwi’n falch eithriadol o weld yr Ŵyl yn mynd o nerth i nerth ac yn parhau i dyfu. Mae gyda ni fwy o ddyddiau o gerddoriaeth, gweithdai a dosbarthiadau meistr nag erioed o’r blaen.

"Mae’r prosiectau addysgol, sy’n arwain at gyfnod yr Ŵyl ac yn ystod yr wythnos ei hun, yn gwbl ysbrydoledig ac fe fydd plant a phobol ifanc ar draws y rhanbarth yn elwa ohonyn nhw.

"Yn ychwanegol at Gôr Glanaethwy a’r Swingles, mae gyda ni ein hartist preswyl, y soprano adnabyddus Elin Manahan Thomas.

"Fe fydd hi’n perfformio gwaith comisiwn gan enillydd Tlws y Cerddor yr Eisteddfod Genedlaethol, Meirion Wynn Jones, heb anghofio’r soprano Ruby Hughes a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

"Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar i glywed y Swingles yn perfformio’ ychwanegodd Dr Puw, ‘mae nhw wedi bod yn symud i gyfeiriad newydd yn ddiweddar, yn cyfansoddi cerddoriaeth wreiddiol eu hunain ac yn gwneud effeithiau diddorol gyda’r llais yn gyfeiliant i’w harmoniau agos arferol.

"Eleni, ar ddydd Gwener, Mawrth 4 mae ganddo ni ddigwyddiad arbennig sy’n ein paratoi at ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, ac fe gawn glywed perfformiadau cyntaf tri gwaith newydd, sef ‘Porthor (Whistling Sands)’ gan Mared Emlyn, ‘Is There No Seeker of Dreams That Were’ gan Sarah Lianne Lewis a ‘Catching Shadows ‘ gan Lynne Plowman, a’r cyfan o fewn un cyngerdd.

"Ac ryde ni’n ffodus iawn i gael perfformiad o ‘The Open Field’ gan Hilary Tann. Cafodd y darn ei ysbrydoli gan wrthryfel myfyrwr yn Sgwar Tiananmen yn Tseina, a dyma’r tro cyntaf erioed iddo gael ei berfformio yn un o wledydd Ewrop. Mae’n waith hyfryd a sensitif a berfformwyd dros 20 o weithiau yn yr Unol Daleithiau ond dyw e rioed o’r blaen wedi cael ei glywed yn Ewrop.

"Mewn un o’n prosiectau addysgiadol, bydd plant yn defnyddio ‘The Open Field’ i’w hysbrydoli i gyfansoddi eu  darnau eu hunain i adlewyrchu themâu tebyg , er enghraifft, argyfwng y ffoaduriaid yn dianc rhag y gwrthdaro yn Syria a’r Dwyrain Canol.

"Daeth y syniad am dri gwaith newydd yn dilyn trafodaethau ges i gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. ‘Roeddwn yn awyddus i gynnwys  gwaith gan gyfansoddwyr benywaidd cyfoes ac fe wahoddwyd Mared Emlyn i gyfansoddi darn ar gyfer cerddorfa.

"Mae Mared yn gyn fyfyriwr PhD a fu’n astudio cyfansoddi a pherfformio ym Mhrifysgol Bangor.

"Mae bellach yn byw yn Eglwys Bach yn Nyffryn Conwy ac er ei bod wedi cyfansoddi nifer o ddarnau ar gyfer perfformwyr unigol ag ensemblau, ‘Porthor’ yw ei gwaith sylweddol cyntaf ar gyfer cerddorfa lawn, sy’n dangos ymrwymiad yr Ŵyl i gefnogi ein cyfansoddwyr ifanc a thalentog. Ysbrydolwyd y darn gan draeth Porthor ym Mhenrhyn Llŷn, lle ceir sain unigryw yn y tywod wrth gerdded drosto."

"Mae Mared yn delynores wych ac mae hi’n gweithio’n rhan amser yn dysgu telyn yn y Brifysgol ond mae’r gwaith yma, ar gyfer cerddorfa lawn, yn ddarn hyfryd sy’n deffro’r synhwyrau i gyd."

Ychwanegodd: "Roedd darnau Sarah Lianne Lewis a Lynne Plowman eisoes yn cael eu hystyried  gan y Gerddorfa Genedlaethol Gymreig ond dydy nhw rioed wedi cael eu perfformio yn gyhoeddus o’r blaen.

"Mae Sarah yn gyfansoddwraig dalentog sydd bellach yn byw yn Nê Cymru, tra bo Lynne Plowman yn gyfansoddwraig fwy profiadol gyda nifer o weithiau amlwg erbyn hyn.

"Da ni’n hynod o ffodus o gael y cyfle hwn i glywed perfformiadau cyntaf tri o weithiau cyfoes gan gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yma yng Ngŵyl Gerdd Bangor. Dewch yn llu!"

Am ragor o fanyliona thocynnau Gŵyl Gerdd Bangor, ewch i wefan: www.gwylgerddbangor.org.uk  neu ffoniwch 01248 382181

Llun: Elin Manahan Thomas

Rhannu |