Mwy o Newyddion
Marw Cynghorydd Plaid Cymru, Eddie Dogan
Mae'r Cynghorydd Eddie Dogan a fu’n gwasanaethu Bangor fel Cynghorydd am gyfnod hir wedi marw. Mae Grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn ymestyn eu cydymdeimlad dwysaf â theulu'r diweddar gynghorydd dros Ward Dewi, Bangor.
Ymddeolodd Eddie Dogan o'i swydd fel Cynghorydd mis Medi diwethaf oherwydd salwch yn dilyn gwasanaethu cymuned Coed Mawr gydag angerdd am dros 40 mlynedd.
Roedd yn cael ei gydnabod yn lleol fel tad Cyngor y Ddinas a gwasanaethodd fel Maer Dinas Bangor ar ddau achlysur.
Bu yn cynrychioli’r ardal ar Gorfforaeth Dinas Bangor a Chyngor Bwrdeistref Arfon cyn iddo gael ei ddiddymu. Ers ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 bu’n gynrychiolydd ar Gyngor Gwynedd.
Yn 1995 cydnabuwyd ei waith caled a’i benderfyniad diflino i gefnogi a datblygu ei gymuned gan Gyngor y Ddinas wrth iddo dderbyn Rhyddid Dinas Bangor ag anrhydedd.
Bu’n aelod ymroddedig a gweithgar o'r Eglwys Gatholig yn St James ym Mangor, a chydnabuwyd ei waith gyda’r eglwys yn ogystal â’i gymuned yn 2004 pan enillodd y fedal Benemerenti gyda dyfyniad gan y Pab, John Paul II.
Roedd hefyd yn gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Dinas Bangor, lle y bu ar un cyfnod yn un o chwaraewyr y Clwb. Rhannodd ei frwdfrydedd ar gyfer Clwb Dinas Bangor ble bynnag yr ai.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, Dyfed Edwards: "Roedd yn anrhydedd i weithio gydag Eddie dros y blynyddoedd ac i’w gael yn aelod o Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd.
"Fel ei gydweithwyr a’i ffrindiau rydym yn estyn ein cydymdeimlad i'w deulu, ffrindiau a chymuned Coed Mawr, Bangor.
"Gadawodd y Grŵp Llafur yn 2005 ac roedd yn fraint ei groesawu i Grŵp Plaid Cymru. Dros y blynyddoedd fe ddangosodd ymroddiad llwyr tuag at greu amgylchedd gwell ar gyfer dinasyddion Bangor i fyw, gweithio a mwynhau dros nifer helaeth o flynyddoedd.
“Roedd ei ymrwymiad i ddatblygu popeth sy'n ymwneud â Bangor a hyrwyddo’r ddinas yn ddi-fai.
"Roedd ei agwedd uniongyrchol a’i natur hyderus wedi bod yr un fath pwy bynnag yr oedd yn ymwneud â nhw ym mha le bynnag.
"Mae'n atgof cyson i holl aelodau'r cyngor o bwrpas y rôl y maent wedi eu hanrhydeddu i’w gweithredu.
“Bydd colled enfawr ar ei ôl ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at y teulu cyfan yn eu profedigaeth," ategodd y Cyng. Dyfed Edwards.
Yn ôl ei gyd-gynghorydd ym Mangor, John Wynn Jones: "Fel cyw Gynghorydd heb fawr o ymwybyddiaeth o drefn y Cyngor yn 1995, roeddwn yn ddiolchgar o’r arweiniad y bu’r Cynghorydd Dogan mor barod i’w rannu â mi.
"Roedd ei werthoedd a’i ymroddiad i feithrin y gwerthoedd hynny mewn eraill, yn rhinwedd dwi’n ei pharchu ac yn gobeithio y gallaf ei efelychu fy hun.
"Mae’n drist gen i glywed y newydd ei fod wedi marw ac rwy’n estyn fy nghydymdeimlad i a fy nghyd-gynghorwyr ym Mangor at ei ffrindiau a theulu.
"Roedd ei deyrngarwch a phresenoldeb yng nghyfarfodydd yn y Cyngor Dinas a’r Cyngor Sir yn wers i bob un a phawb ohonom gaiff yr anrhydedd o gynrychioli pobl leol ledled Cymru heddiw. Mae heddiw yn ddiwrnod trist i Fangor a Gwynedd," ychwanegodd y Cynghorydd Jones.