Mwy o Newyddion
Nia yn dod â cherddoriaeth i breswylwyr cartref gofal
Mae awdurdod blaenllaw ar ddefnyddio cerddoriaeth yng ngofal pobl â dementia yn mwynhau ei rôl newydd mewn canolfan ragoriaeth yng Ngwynedd.
Mae Nia Davies Williams, sydd hefyd yn gerddor rhyngwladol adnabyddus, wedi cael ei phenodi fel cerddor preswyl yn y ganolfan £7 miliwn a godwyd gan sefydliad gofal Parc Pendine yng Nghaernarfon.
Mae Bryn Seiont Newydd sydd ar safle hen ysbyty cymunedol, Ysbyty Bryn Seiont, wedi agor yn ddiweddar.
PERTHNASOL: Canolfan ragoriaeth yn recriwtio’r 60 aelod o staff cyntaf
Mae'r ganolfan ddwyieithog yn darparu cyfleusterau “o’r radd flaenaf” i 71 o breswylwyr, ac mae16 o fflatiau byw i gymheiriaid hefyd yn cael eu hadeiladau i ganiatáu i gyplau aros gyda’i gilydd ac i barhau i fod yn annibynnol.
Mae Nia, 43 oed, wedi bod yn ail yng nghystadleuaeth flynyddol Cân i Gymru ar S4C ac wedi cyfansoddi cerddoriaeth i fandiau Cymraeg adnabyddus, yn ogystal â gwefreiddio cynulleidfaoedd o dros 10,000 mewn gwyliau cerddorol.
Llwyddodd Nia hefyd i berswadio’r seren gerddorol Leonard Cohen i roi caniatâd i’w gân, Hallelujah, gael ei chyfieithu i’r Gymraeg.
Dyma’r tro cyntaf, a’r unig dro, i Cohen ganiatáu i’r gân eiconig gael ei chyfieithu i unrhyw iaith.
O ganlyniad i hyn, llwyddodd côr poblogaidd Glanaethwy i swyno beirniaid Britain’s Got Talent wrth ganu’r gân yn Gymraeg yn ystod y rhaglen.
Mae Nia wedi bod yn chwarae’r piano a’r delyn ers dros 30 mlynedd ac mae’n un o awdurdodau mwyaf blaenllaw'r byd ar ddefnyddio cerddoriaeth yng ngofal dementia.
Dywedodd: “Rwyf wedi bod yn gweithio fel cerddor proffesiynol am 10 mlynedd bellach, yn mynd o amgylch cartrefi gofal ac yn chwarae cerddoriaeth i breswylwyr.
“Mae’n anhygoel gweld yr effaith mae’n gallu ei gael. Mae nifer o gleifion dementia wedi colli llawer o’u hatgofion ac nid ydynt yn gallu cofio eu geiriau wrth geisio siarad, ond unwaith y byddwch yn dechrau chwarae alaw maen nhw’n gyfarwydd â hi, byddan nhw’n canu ac yn cofio pob gair o alaw y gwnaethon nhw ei chlywed 50 mlynedd yn ôl.
“Rwyf yn gwneud fy ymchwil ac yn dod o hyd i’r hyd sydd yn eu hysgogi, yr hyn sydd yn eu sbarduno nhw, ac rwyf yn mynd â fy nhelyn Geltaidd fechan o gwmpas gyda mi i chwarae’r gerddoriaeth.
"Mae’n haws i’w chludo ond hefyd, mae gan y delyn nodweddion therapiwtig. Mae pobl yn ei hadnabod ac wedi bod yn ei chysylltu â hynny ers canrifoedd.”
Hefyd, bydd Nia, sydd wedi bod yn athrawes biano am nifer o flynyddoedd ac yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor yn dilyn graddio o’r brifysgol gyda gradd mewn cerddoriaeth, a hefyd yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, yn llunio rhaglen o ddigwyddiadau cerddorol ar gyfer preswylwyr ac yn gobeithio denu bandiau, cerddorion a pherfformwyr.
Dywedodd: “Byddaf yn gwneud ychydig o bopeth, beth bynnag fydd y cleifion ei angen. Cerddoriaeth werin, emynau - roeddwn i’n canu ychydig o Rod Stewart i rywun yr wythnos ddiwethaf - ac yn didoli offerynnau i’r preswylwyr allu ymuno.
“Rwyf hefyd yn dod â phropiau eraill, blodau neu berlysiau ag arogl efallai neu luniau - unrhyw beth a allai ysgogi teimlad neu sbarduno atgof."
Dechreuodd Nia ymweld â chartrefi gofal gyda’i cherddoriaeth 20 mlynedd yn ôl ac unwaith y sylweddolodd yr effaith ddramatig yr oedd yn ei gael ar gleifion dementia yn arbennig, aeth ymlaen i astudio’r pwnc ymhellach gan gwblhau gradd Meistr Cerddoriaeth mewn Dementia ym Mangor.
Yn ystod eu hastudiaethau cafodd ei gwahodd i gyflwyno canfyddiadau ei hymchwil i gynhadledd o arbenigwyr yn Detroit ac ochr yn ochr â’i gwaith academaidd, mae Nia wedi bod dramor yn perfformio cerddoriaeth hefyd.
Mae’n chwarae’n rheolaidd gyda’r band Brigyn, ac mae wedi ymddangos gyda nhw yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd a Gŵyl y Faenol, a drefnwyd gan Bryn Terfel, a chawsant wahoddiad i berfformiad eu cerddoriaeth yn San Fransisco hefyd.
Dywedodd Nia: “Cawsom ein dilyn gan griw ffilmio yn ystod y gigs hynny ac fe wnaethon nhw raglen ddogfen a gafodd ei dangos ar S4C.”
Mae hefyd wedi cyfansoddi ceisiadau ar gyfer cystadleuaeth flynyddol Cân i Gymru, gan ddod yn drydydd yn 2012, a threfnu’r fersiwn Gymraeg gyntaf o Hallelujah ar gyfer y band. Mae hwn yn ddewis poblogaidd bellach ledled y wlad.
“Roedd yn rhaid i ni gysylltu â Leonard Cohen, a dyma’r tro cyntaf iddo ganiatáu i'r gân gael ei chyfieithu i unrhyw iaith arall.
“Ers hynny, mae’r gân wedi cael ei pherfformio gan Gôr Glanaethwy, y côr gydag 165 o aelodau a ddaeth yn drydydd yn Britain’s Got Talent eleni,” ychwanegodd Nia.
Gan mai Cymraeg yw ei hiaith gyntaf mae’n edrych ymlaen at ei defnyddio yn ei swydd newydd ac mae’n disgwyl i’r iaith fod yn rhan bwysig o’r swydd y bydd yn ei gyfuno â gweithio gyda Chydlynydd Cyfoethogi’r ganolfan.
Bydd Nia’n rhannu’r swydd hon gydag Artist Preswyl y ganolfan, a bydd y ddau’n defnyddio eu harbenigedd i estyn llaw i gleifion.
Dywedodd Nia: “Rwy’n teimlo’n freintiedig i allu gweithio gyda rhai sy’n dioddef o ddementia. Pan mae gofalwr yn dweud wrthych nad yw rhywun wedi yngan gair ers misoedd a’u bod nhw’n canu pob gair gyda chi yna mae’n rhoi llawer o foddhad i mi.”
Cafodd y fam i dri yn byw gyda’i phartner, sy’n athro cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, yng Nghaernarfon, ei magu ym Mhen Llŷn.
Mae ei phenodiad yn ychwanegu at ymrwymiad parhaus Parc Pendine i gydweithio gyda’r celfyddydau i gyfoethogi bywydau’r rheiny y mae’r grŵp yn gofalu amdanynt - dull sydd wedi arwain y sefydliad at ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd.
Mae gan Barc Pendine dri artist preswyl eisoes wedi eu lleoli yn ei gartrefi gofal ac maent yn cydweithio ers tro gyda cherddorfa byd enwog Hallé, Opera Cenedlaethol Cymru ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Mae’r partneriaethau hyn wedi arwain y grŵp gofal at gael eu henwi yn Fusnes y Flwyddyn yn ogystal â derbyn Gwobr y Celfyddydau, Busnes ac Iechyd yng Ngwobrau’r Celfyddydau a Busnes eleni.
Syniad perchnogion Parc Pendine, Mario a Gill Kreft, oedd y ganolfan arloesol hon, ac maent yn gweld ei hagor fel y ffordd berffaith o ddathlu pen-blwydd y sefydliad yn 30 mlwydd oed.
Maent eisoes yn cyflogi dros 650 o bobl mewn saith tŷ gofal yn Wrecsam, sy’n darparu gofal ar gyfer amrywiaeth o anghenion, cwmni gofal cartref a’u cwmni hyfforddi mewnol.
Derbyniodd Mr Kreft, sydd hefyd yn Gadeirydd Fforwm Gofal Cymru, MBE am ei gyfraniad i ofal cymdeithasol yng Nghymru.
Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd yn croesawu Nia i’r ganolfan arbennig rydym yn ei chreu yma yng Ngwynedd .
“Rydym yn gwybod o brofiad o fewn ein sefydliad bod y celfyddydau yn gallu cael dylanwad cadarnhaol ar ein cleifion wrth gyfoethogi a gwella ansawdd eu bywydau.
“Bydd y ganolfan ragoriaeth ar gyfer gofal dementia yn gosod llwybr i arfer da yn y sector a bydd cerddoriaeth yn chwarae rhan flaenllaw yn hynny drwy gefnogi lles meddyliol ac emosiynol ein cleientiaid a’n staff.”
Llun: Nia Davies Williams yn chwarae'r delyn ar y Maes gyda Mario Kreft