Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Hydref 2015

Canolfan ragoriaeth yn recriwtio’r 60 aelod o staff cyntaf

Mae sefydliad gofal wedi penodi’r 60 aelod o staff cyntaf i ganolfan ragoriaeth £7 miliwn ar gyfer gofal dementia, fydd yn agor yng Nghaernarfon y mis nesaf.

Mae Parc Pendine wedi trefnu mis o hyfforddiant dwys i’r bobl newydd yma, yn Galeri, canolfan gelfyddydau a chynadledda Caernarfon.

Ymhen amser bydd Bryn Seiont Newydd, sydd ar safle hen ysbyty cymunedol, Ysbyty Bryn Seiont, yn cyflogi 100 o bobl.

Bydd y ganolfan ddwyieithog hon yn darparu cyfleusterau “o’r radd flaenaf” ac yn cynnig gofal seibiant a gofal dydd yn ogystal â 71 o welyau i’r bobl fydd yn byw yno.

Mae yno hefyd gynlluniau i adeiladu 16 o fflatiau fel bod pobl yn gallu byw gyda’i gilydd, fel ail ran y datblygiad.

Mae’r ganolfan yn ffrwyth meddwl perchnogion Parc Pendine, Mario a Gill Kreft, sydd eisoes yn cyflogi dros 650 o bobl mewn saith cartref gofal yn Wrecsam, gan ddarparu ar gyfer amrywiaeth o wahanol anghenion.

Wrth siarad gyda’r aelodau newydd o staff dywedodd Mr Kreft: “Rhaid i ni gofio y byddwn ni yng nghartref rywun. Rhaid i ni drin y preswylwyr yn y ffordd fwyaf priodol a pharchus ag y medrwn.

“Mae cyfoethogi bywydau pobl yn uchel ar ein rhestr o flaenoriaethau. Rydym eisiau i breswylwyr gael cyfleoedd i gymryd rhan yn y celfyddydau a cherddoriaeth ac rydym yn gwybod o brofiad y gwahaniaeth mawr y gall hynny ei wneud i fywydau pobl.”

Ychwanegodd hefyd: “Mae'n gyffrous i ni weld Bryn Seiont a’r staff rydym wedi’u recriwtio ac mae'n ein gwneud i ni deimlo’n hynod falch. Rydym wedi dewis y gweithwyr newydd yn ofalus iawn. Rydym eisiau sicrhau pobl sy’n gallu darparu’r gofal iawn yn y ffordd iawn.

“Hynny yw ein hathroniaeth ni, ac fe fyddwn ni’n mynnu ein bod yn glynu at ein nod o gyflawni rhagoriaeth ym mhob agwedd o ofal.

“Bydd Bryn Seiont yn ganolfan ddwyieithog ac mae dros 84 y cant o’r staff rydym  wedi eu recriwtio yn gallu siarad Cymraeg.”

Mae cael swyddi newydd ym Mryn Seiont yn gwireddu breuddwyd i dîm o ŵr a gwraig, Jamie ac Amanda Hitchen, o Benygroes.

Mae Jamie, 33 oed, yn ymarferydd gofal ac meddai: “I mi, mae gofal yn fater o wneud yn sicr bod cartref gofal hefyd yn gartref i’r preswylydd ei hunan. Rydw i’n gwybod pa mor bwysig ydi trin pobl gyda’r parch maen nhw’n ei haeddu a gwneud iddynt deimlo’n ddiogel.

Mae Amanda, 29 oed, wedi bod yn gweithio mewn gofal critigol, llawfeddygaeth a nyrsio cyffredinol cyn penderfynu arbenigo mewn gofal dementia. Dywedodd: “Nyrsio ydi’r alwedigaeth i mi. Dydi nyrsio ddim yn waith hawdd, fydd o ddim byth yn hawdd, am ei fod yn gwneud gofynion gydol yr amser ar eich emosiynau.

“Roedd holl athroniaeth Parc Pendine yn ddeniadol i mi. Rydw i’n mwynhau’n fawr y syniad o ddefnyddio’r celfyddydau a cherddoriaeth er mwyn helpu i gyrraedd at wreiddiau pobl. Rydw i’n gwbl sicr ei fod yn gweithio ac yn helpu i wneud pobl yn hapus.

“Rhaid i ni beidio anghofio am deuluoedd y preswylwyr. Mae angen iddyn nhw deimlo’n hyderus a gwybod bod eu hanwyliaid yn cael y gofal iawn.”

Un o’r ymarferwyr gofal newydd ym Mryn Seiont ydi Rita Roberts, 57 oed, o Rhos Isaf, sy’n fam i bedwar. Mae hi wedi bod yn gweithio i Wasanaethau Gofal Cartref Cyngor Sir Gwynedd am dros ddeng mlynedd.

Dyma ddywedodd hi: “Rydw i’n hynod falch o gael y swydd newydd yma. Yn fy hen swydd, roeddwn i’n treulio llawer gormod o amser yn teithio a dim digon o amser yn gofalu.

“Mae’r rhaglen gyfoethogi wedi gwneud argraff fawr arnaf. Doeddwn i ddim wedi gweld rhaglen fel hon o’r blaen, ac mae’n anodd credu pa mor syml ydi hi. Mae fy rhieni mewn cartref gofal ac yn dioddef o ddementia ac mi faswn i’n falch mewn gwirionedd pe bai modd iddyn nhw allu bod yn rhan o raglen fel hon.

“Mae’r fideos hyfforddi wedi gwneud argraff fawr arnaf hefyd. Mae mor wahanol i unrhyw beth rydw i wedi’i weld o’r blaen, ac mor, mor syml. Mae athroniaeth y cyfan o Sefydliad Gofal Parc Pendine wedi gwneud argraff arnaf. Mae yma gyfleoedd i fynd ymlaen yn y gwaith os byddwch eisiau hynny hefyd!

Bydd Margaret Roberts, 51 oed, yn bennaeth ar y gwasanaeth cadw tŷ ym Mryn Seiont ac mae’n gweld ei rôl hi fel goruchwylio pob agwedd o ofal. Mae hi’n dod o Ddeiniolen, yn briod ac yn fam i ddau.

Dywedodd: “Rydw i wedi gweithio yn y sector gofal am 17 mlynedd ond mae’r hyn rydw i wedi’i weld o Parc Pendine yn chwyldroadol. Mae’n ffordd wahanol a gwell o ofalu am bobl sydd ag amrediad o wahanol broblemau.

“Mae’n rhywbeth newydd iawn, yn enwedig i’r ardal hon. Rydw i wedi gweld rhaglenni cyfoethogi o’r blaen ond dim byd fel yr hyn fyddwn ni’n ei defnyddio ym Mryn Seiont.

“Y peth i mi ydi’r neges amlwg nad ydi dod i mewn i amgylchedd gofal ddim yn golygu diwedd oes ond yn hytrach ei fod yn ddechrau ar bennod newydd o fywyd. Maen nhw wedi bod yn ofalus i recriwtio tîm rhyfeddol ac rydw i’n edrych ymlaen yn arw at gael dechrau.”

Mae Matthew McClay, 36 oed, yn ymarferydd gofal fydd ymhen ychydig yn symud i gartref newydd yn Nhregarth gyda’i bartner a’u merch 10 oed, ac meddai: “Roeddwn i wedi ymchwilio i Parc Pendine cyn gwneud cais am y swydd ac mi wnaeth yr hyn wnes i ei ddysgu argraff fawr arnaf.

“I raddau mawr mae’n golygu dod yn gartref oddi cartref. I mi, roedd y syniad o ddefnyddio cerddoriaeth a chelf fel ffordd o gyfoethogi bywydau pobl yn gymaint o ysbrydoliaeth. Mae mor syml ac eto mor wahanol ac rydw i’n hoff iawn o’r holl syniad ohono.

“Ac rydw i’n hoffi’r ffordd mae’r sefydliad yn gofalu am ei staff ac yn cynnig cymaint o gyfleoedd i gael symud ymlaen.”

Fe ychwanegodd rheolwraig Bryn Seiont, Sandra Evans: "Beth oedd yn ddeniadol am Fryn Seiont i mi oedd y rhaglen gyfoethogi, sy’n defnyddio pob math o gelfyddydau i wella ansawdd bywyd i’n preswylwyr ni. Bydd hynny’n rhan annatod o beth fyddwn yn ei wneud.

“Mae’r syniad o arwain y tîm ardderchog yma’n gyffrous iawn i mi. Mae’n gyfle i ddarparu’r gofal gorau posib trwy gyfrwng y Gymraeg.” 

Rhannu |