Mwy o Newyddion
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i barhau o dan fesurau arbennig
Heddiw, cadarnhaodd Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd, y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau o dan fesurau arbennig am ddwy flynedd.
Cafodd adolygiad o’r cynnydd a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod y pedwar mis ers 8 Mehefin, pan gafodd ei roi o dan fesurau arbennig, ei gynnal yn ddiweddar gan swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Cafodd y cynnydd ei drafod mewn cyfarfod teiran o uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a gafodd ei gynnal ddoe (Dydd Mercher 21 Hydref).
Derbyniodd y Dirprwy Weinidog gyngor y cyfarfod teiran y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr barhau o dan fesurau arbennig.
Bydd y cynnydd a’r cerrig milltir yn cael eu hadolygu bob chwe mis ond bydd y Bwrdd Iechyd yn cael ei roi o dan fesurau arbennig am ddwy flynedd.
Dywedodd Mr Gething: “Cytunwyd yn y cyfarfod teiran fod y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Bwrdd Iechyd fel rhan o'r cynlluniau 100 diwrnod wedi sicrhau bod sylw yn cael ei hoelio mewn nifer o feysydd allweddol a bod camau cadarnhaol wedi cael eu cymryd.
"Ond, i fynd i'r afael â’r heriau mwy sylfaenol, bydd angen cynlluniau tymor hwy i adeiladu ar y cam cychwynnol hwn yn y broses o sefydlogi. Bydd hyn yn arbennig o wir er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gogledd.
“Felly, dw i wedi derbyn y cyngor y cyfarfod teiran y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr barhau o dan fesurau arbennig am ddwy flynedd.
PERTHNASOL: Cleifion yn canslo bron hanner yr holl driniaethau a ohiriwyd
“Rwy’n sylweddoli bod hwn yn gyfnod anodd i’r sefydliad ond dw i am ddweud ar goedd bod yr adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn ynghylch ymateb y staff.
"Bydd eu hymroddiad a’u hegni nhw yn hanfodol i fynd i’r afael â’r heriau sydd i ddod o ran darparu gwasanaeth o ddydd i ddydd ac o ran gwella gwasanaethau i bobl y Gogledd."